91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aelodau'r Band Adolygiad o'r CD "Cerdded"
Dylan Davies sy'n adolygu'r CD newydd a chyffrous "Cerdded," gan y grŵp lleol "Coda"
Faint ohonoch sy' wedi clywed am y grŵp newydd Coda?. Maent yn dod o Ddyffryn Teifi ac wedi cynhyrchu CD. Wedi i mi glywed bod eu cryno ddisg newydd yn cael ei lansio, rhaid oedd ar unwaith fynd i'w phrynu.

Cenedl sydd wedi tyfu i fyny heb lawer o sîn gerddoriaeth fodern Cymraeg cyson ydym ni'r Cymry. Tan y chwedegau hwyr a'r saithdegau cynnar dim ond canu clasurol oedd yn derbyn clod yng ngwlad y gân. Newidiodd hyn i gyd gyda dyfodiad rhaglen nosweithiol "Y Dydd" pryd y daeth Dafydd Iwan i'r amlwg gyntaf. Erbyn hyn mae'r sîn wedi datblygu a nifer o berfformwyr wedi mynd a dod. Yn ddiweddar bu grwpiau fel Mega, Eden ac yn ddiweddar iawn Max-N. Ond byr fu eu arhosiad ac erbyn hyn mae'r rhain wedi diflannu o'r sin gerddoriaeth Gymraeg.

Symlrwydd y clawr
Wrth edrych ar CD y grŵp Coda, y peth cyntaf a'm trawodd oedd symlrwydd y clawr. Coda sef enw'r band yn blaen iawn ar groes o gefndir lliwgar a chynnes. Wrth agor y casyn rydym yn cael gwybod enwau a swyddi'r pedwar bachgen yn y band. Un yn chware'r drymiau, un yn brif leisydd a dwy gitâr.

Wrth wrando ar y CD am y tro cyntaf, roeddwn yn edrych ymlaen i glywed y caneuon. Sylwais bod arddull syml i'r caneuon, a hyd yn oed y gerddoriaeth. Teimlaf, yn aml bod bandiau Cymraeg sydd yn ceisio dod allan yn y byd cerddoriaeth yn cyfansoddi caneuon sydd yn rhy uchelgeisiol i'w gallu. Tuedda'r geiriau i fod yn arwynebol ac heb lawer o ddyfnder. Gyda Coda mae'n rhaid ystyried oedran, profiad byd cerdd a phrofiad bywyd bob dydd yr aelodau.

Deuthum i'r casgliad fod y mwyafrif o'r geiriau yn dderbyniol. Rhaid yw canmol y grŵp am fod yn wreiddiol ac am ysgrifennu geiriau a threfnu alawon hollol newydd ac unigryw. Mae hyn yn eu galluogi i weithio o fewn cwmpawd maent yn hapus a chyffyrddus ynddo. Bydd yn ddiddorol dilyn ei gyrfa a gweld y datblygiad cerddorol a geiriol.

Rydw i wedi dwli ar y gân gyntaf sef 'Cymer Fi.' Dim am unrhyw reswm yn benodol, ond teimlaf ei fod wedi 'clicio.' Yn enwedig wrth yrru'r car, mae'n ysgogi i yrru yn gynt. Wrth symud ymlaen at yr ail gân sef 'Cerdded', teimlaf fod yr elfen naturiol o'r perfformwyr yn cael ei golli yn y gân. Credaf fod y lleisiwr o dan staen ac yn y drydedd gân cawn steil arall yr 'heavy metal' gyda'r gitâr fas a'r drwm yn amlwg iawn. Mae'r unawd gyda'r gitâr flaen yn effeithiol ac yn gweddu i'r dull yma o ganu.

Wrth i mi wrando ar y gryno ddisg, cerddodd mam i mewn i'r ystafell. Mae mam yn teimlo bod llawer o ddylanwad y saithdegau (cyn fy amser i!) yn enwedig ar yr ail gân yn ymdebygu i ddull y 'Rolling Stones.'

Wrth gloi, un peth sy'n amlwg yw bod y canwr yn medru canu mewn tiwn, a bod yr offerynwyr wedi eu trwytho yn gelfydd yn yr offerynnau. Mae hyn yn amlwg wrth wrando ar y gryno ddisg. Un siom sydd nad oes mwy o ganeuon ar y CD. O'r ychydig rai gwelwn fod ystod eang o dalent i fedru perfformio gwahanol ddulliau o gerddoriaeth ysgafn. Byddaf yn edrych ymlaen yn eiddgar at y CD nesaf, gan obeithio y bydd yn cynnwys mwy o ganeuon ac efallai albwm yn nes ymlaen.

Gobeithio wedi'r holl waith caled ac ennill cystadleuaeth 'Brwydr y Bandiau' Mentrau Iaith Cymru a C2 91Èȱ¬ Radio Cymru mae dechrau'r daith fydd hyn i Coda, ac nid y diwedd. Felly, gydag ychydig o lwc medrwn edrych ymlaen am sawl blwyddyn o ddatblygiad cerddorol gan Coda.

Adolygiad gan Dylan Davies.

Mwy am Coda

Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý