Main content

Cerddi Rownd 1

TRYDARGERDD: Cyhoeddi dyweddïad

Bro Alaw

Hi mum, mi dwi’n mêd, dwidi bachu
Y Limey, ond paid â phryderu,
Mi gawn ni d欧 rhad
A byw ar y wlad,
Dio’m tebyg i’w dad, diolch am hynny!

John Wyn Jones - 8

Gwylliaid Cochion

Mae brân di-frân di ffindio brân
mae'n frân fel pob brân arall.
Mi fydd y frân yn frân i mi
nes ffindith hi frân arall.

Pryderi Jones – 8

CWPLED CAETH yn cynnwys y gair ‘crys’

Bro Alaw

Amser a ddysg nad erys
Y graen ar goler dy grys.

Richard Parry Jones – 8.5

Gwylliaid Cochion y Llew

Ni all ffans a chrys ffansi
Newid dim o’th wnïad di.

Gwerfyl Pierce – 9

LIMRIG yn cynnwys y llinell ‘Mae peryg y cewch chi eich brathu’

Bro Alaw

Ai llwynog yw’r llew sydd yn cysgu?
Efallai, ond peidiwch rhyfygu
A thrafod ei gerrig,
Heb help anathsetig,
“Mae peryg y cewch chi eich brathu” .

Geraint Jones – 8.5

Gwylliaid Cochion y Llew

Os dwistiwch chi’i flewyn a thynnu,
Rhoi cic yn ei din wedi hynny,
Rhoi dwrn yn ei geg
A’i alw’n air rheg
Mae peryg y cewch chi eich brathu.

Arwyn Groe – 8.5

CYWYDD (heb fod dros 12 o linellau): Ymweliad

Bro Alaw
Ymweliad Donald Trump â Th欧’r Cyffredin

Yn sied y clos mae’n nosi
A’r criw ieir yn parhau’u cri,
Dwrdiant geiliogod ardal
Yn bur chwyrn, a phawb ar chwâl;
Mor ddi-hid 欧nt mwy o’r ddôr
A rwygwyd draw ar agor.
Ond mae O, y cadno cas,
Yn eu gwylio o’r gowlas,
A rhywfodd, heb wahoddiad,
Daw drwy’r ddôr a styrbio’r stad,
Wedyn rhed o’i weithred hy’
A’u gadael yno’n gwaedu.

Richard Parri Jones - 9

Gwylliaid Cochion y Llew

Yma mae’r hud, Gymru’r hwyl
Ar agor pan ddaw’r egwyl;
O fewn hon fe gewch fwynhau
Adlais o wlad y chwedlau.
Mae mynd ar flwyddyn y môr,
A’r ysu i weld ein trysor.
I’r taeog, tywysogaeth
I’w gwerthu, yw’r Gymru gaeth
I’n cymdogion wirioni
Ar ei naws. I’n pentre ni
Dyro iaith a chwedlau dros
Y tir, rhag iddynt aros.

Huw Jones – 9.5

PENNILL YMSON wrth gwblhau ffurflen

Bro Alaw
Ffurflen Enwebiad am un o Anrhydeddau’r Sefydliad Prydeinig

Am ddarllen hanes trenau
Mae Ringo’n Syr – meddylia,
Ac os daw gwyrth i Nymbar Ten
John Ogwen fydd y nesa.

John Wyn Jones - 9

Gwylliaid Cochion y Llew

Wrth edrych arno o mor hir
mae'r cwestiwn cynta'n iawn.
ond er ei weld yn hollol glir
ni wn fy enw'n llawn.

Iwan Parry – 9

CÂN YSGAFN (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Tywydd Mawr

Bro Alaw
Cân y Morwr

Fe ges fy ’sgubo oddi ar y bwrdd
A thorrwyd fy nghoes dde i ffwrdd,
Fe ges un arall yn ei lle
Fe ges goes chwith, rown isio’r dde.

Hon oedd yr unig un ar gael,
Un wedi’u gwneud o blastig gwael,
A rhybudd imi ei chadw’n lân,
Ac eistedd ddigon pell o’r tân.

Bu cyfnod mendio’n gyfnod hir,
Gwneud dim ond gwylio’r môr o’r tir,
Pan es yn ôl i’r moroedd draw
Fe ddaeth rhyw siarc a bwyta’m llaw.

Ac yn lle llaw a bysedd bach,
Fel llongwr iawn mae gennyf fach;
A do fe gefais ddamwain gas
Pan gollais un o’m llygaid glas.

Yr oedd rhyw wylan, nôl ei chri,
’Di ’nelu’n syth i’m llygad i,
Ac yn fy mrys i llnau y cach
Anghofiais bopeth am y bach.

Geraint Jones – 9.5

Gwylliaid Cochion y Llew

Os yw dail y coed tu chwythig – Tywydd Mawr, Tywydd Mawr
A’r defaid yn sychedig - Tywydd Mawr,
Y buchod oll yn gorwedd, neu’n ‘rafon ar eu heistedd,
neu’n sgio lawr y llechwedd Tywydd Mawr, Tywydd Mawr,
A’r Gymraeg ar iws’n y Senedd - Tywydd Mawr !

Os yw iar yn clwydo’n gynnar - Tywydd Mawr Tywydd Mawr
A Donald Trump yn trydar - Tywydd Mawr,
Os yw’r lager wedi chwerwi, a’r chwerw yn rhy gasi,
a’r Guiness wedi gwelwi – Tywydd Mawr Tywydd Mawr
A’r gwr yn golchi’r llestri - Tywydd Mawr !

Os crawcia’r fran yn swynol - Tywydd Mawr Tywydd Mawr
A Dafydd El yn bleidiol - Tywydd Mawr
Y Dref Wen yn y dyffryn, priodas heb ‘run delyn
a chottage lle bu tyddyn – Tywydd Mawr Tywydd Mawr
Bro Alaw heb un nodyn - Tywydd Mawr !

Os ‘di’r gath di sgramo Joni - Tywydd Mawr Tywydd Mawr
A MegHan ‘di bachu Harri - Tywydd Mawr
Os ‘di’n glawio draw yn Blaena’, a phobl bach ‘n y Bala,
a Tresa May’n Nolgella -Tywydd Mawr Tywydd Mawr
A minnau’n canu’n fann’ma – Tywydd Mawr !

Mair Tomos Ifans -9

Llinell ar y pryd: Awn am awr i fyd Mari

Bro Alaw

Awn am awr i fyd Mari
I’r oes hon da’r erys hi.

Gwylliaid Cochion y Llew

Awn am awr i fyd Mari
Dan waed ein hesgidiau ni

0.5

TELYNEG (heb fod dros 18 llinell): Brys

Bro Alaw

Araf yw’r haul yn codi
a Phenmon yn welw uwch llwydni’r Fenai,
pelydrau’n deffro drwy’r craciau yn y cymylau
gan rwbio’u llygaid i wynebu’r bore,
yn union fel y bachgen hwnnw
flynyddoedd maith yn ôl
fu’n taflu dimeiau ei obeithion i’r ffynnon
ac a welodd wylan yn sglefrio’n ddiog
uwch tonnau ei bodolaeth.

Fflamgoch yw pelen yr hwyr heno
wrth lithro i lawr creithiau’r gorwel
a rhuthro at erchwyn diwrnod arall,
cysgod y gwalch glas
yn saethu’n unionsyth at ei brae ar greigiau Cybi;
yntau’r henwr yn fflemio’r atgofion
a fu’n gwaedu’n hir yn ei gof
cyn i haul ei fodolaeth suddo fel pelen blwm
i Fôr yr Iwerddon.

Cen Williams - 10

Gwylliaid Cochion y Llew

Mae ôl brys ar y gwaith cartref a diffyg trywydd clir,
Rhaid ymroi, ymroi ar frys ; arholiadau cyn bo hir.
Llifeiriant di-atal yr inc coch,
Rhaid anwybyddu pethau dibwys bywyd,
Ail-asesu, blaenoriaethu,
Aberthu ronyn,
Ymdopi ac ymdrechu,
Aeddfedu rhyw fymryn
Dim ôl brys wrth ymroi yn llwyr i’r gwaith cartref.

Ar ôl iddi ymolchi mam, ei bwydo, hwylio te,
Rhaid ymroi, ymroi ar frys a thwtio rhywfaint ar y lle.
Llifeiriant di-atal cariad cu,
Rhaid anwybyddu pethau dibwys bywyd,
Ail-asesu, blaenoriaethu,
Aberthu fymryn,
Ymdopi, ymdrechu,
Aeddfedu cryn dipyn
A dim ôl brys wrth ymroi yn llwyr i’w gwaith gartref.

Mair Tomos Ifans – 10

ENGLYN: Cod

Bro Alaw

Fe wn pan estynnaf innau’r – bysedd
I bwyso botymau
Fy nghof, na rof y rhifau
Iawn i’r gist, mae’n dal ar gau.

Richard Parry Jones – 8.5

Gwylliaid Cochion y Llew

Mynn gyfrinach cromfachau, rhwng y dweud,
rhwng dot a llinellau,
fforia mlaen drwy’r fformiwlâu,
yn fanno y cei finnau.

Gwerfyl Price –8 .5

Bro Alaw - 71
Gwylliaid Cochion y Llew - 72