Cerddi Rownd 2
Trydargerdd: Cywiriad i raglen Eisteddfod
Crannog
Fe all ansoddair mas o le
Greu paradocs celwyddog
Cans yr Eisteddfod, nid Dre-fach,
A haeddai’r gair ‘Mawreddog’.
Eirwyn Williams - 8
Tir Iarll
Yn wahanol i'r hyn a nodwyd
O dan eitem rhif 400,
Yn sgil crimes against cynghanedd,
Ni fydd unrhyw ganu cerdd dant!
Aneurin Karadog - 8
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair ‘creu’
Crannog
Weithiau, yn niwyg aethist,
Awn i greu ein Iesu Grist.
Endaf Griffiths - 9
Tir Iarll
Anodd yn awr, medden nhw,
Yw i Grannog greu enw.
Tudur Dylan Jones – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Nid diwedd y gân ydyw’r geiniog’
Crannog
Ac angen gwneud d诺r yn gynddeiriog
Mewn ‘lay by’ yn ymyl Porthmadog
Heb ddim arian mân
Yr own fel Sam Tân,
Nid diwedd y gân ydyw’r geiniog.
John Evans – 8.5
Tir Iarll
‘Nid diwedd y gân ydyw’r geiniog’
Medd Jeremy Hunt yn drugarog;
‘Chwi nyrsus y rhod
Yw’r gorau sy’n bod...
Derbyniwch fy nghlod yn lle cyflog.’
Emyr Davies - 8
Cerdd ar fesur yr englyn Penfyr: Graffiti
Crannog
Pan fo wal yn dudalen i gymell
y rhigymwr amgen
â gair a lliw i greu llên,
yn finiog, answyddogol efo’i baent
fe â bardd y bobol
i eirio’i salm aerosôl.
Hon yw awen ein heno, mae’n awen
i’w mwynhau a’n herio,
yn rant na chaiff ei phrintio.
Yna wedyn, heb oedi, daw dynion
di-enw i’w golchi
a dileu ei hodlau hi,
ac, heb ddeall, awn allan i rodio
hyd y strydoedd aflan
a’r waliau oll yn rhy lân.
Idris Reynolds – 9.5
Tir Iarll
Ar ymweliad â Jean yr Hendre, â'r ffarm ar fin cael ei gwerthu, sylwais fod englynion Dic i'r tipis, a baentiwyd ar y sied gan Brychan, yn diflannu o dan brysgwydd
Dan iorwg, dyna ei eiriau'n cilio
fel y Cilie'n greiriau
llwyd o aelwyd diolau.
Ond os mudan yw peirianwaith y fferm,
gwnawn ffair o bob campwaith
a chanu yn Frychanwaith
ar waliau ein gorwelion, bob un gair,
eu byw'n gwlt ag olion
Banksy'n ei gerddi gwyrddion
a phaentio englyn mewn ffont onglog, street,
hyd nes troi'n llafarog
y parch hwn i'r perchennog.
Dan iorwg, dihuna'i eiriau'n rhodres,
yn ffrwydrad o liwiau;
lliwio â spray i'r llais barhau.
Aneurin Karadog - 9.5
Pennill Mawl neu Ddychan: Diplomydd neu ddiplomyddion
Crannog
Ei enw ef oedd Novichok
Ac enw’r wraig oedd Sarin
Ond wyddai ‘r un o’r ddau ddim byd
Am ffatri Mr. Putin.
Endaf Griffiths – 8.5
Tir Iarll
Degawdau o drafod tactegol
Yn dawel tu ôl i’r llen,
A’r entente cordiál yn blodeuo…
Nes i Boris agor ei ben.
Tudur Dylan Jones - 9
Cân Ysgafn: Yr Hen Elyn
Er iddynt hwy berchnogi yr hen ynysoedd hyn,
Tro yma, mas o bedwar, y pumed oedd y gwyn,
Ac er fod May y maswr yn gwaeddu nerth ei cheg
Nid oes yr un awdurdod yn deillio o’r Rhif Deg,
Y pac, heb ddim disgyblaeth, sy’n ymladd am y bunt
Er mwyn ei chadw’n Llundain fel yn yr oesoedd cynt
A’r olwyr anghofiedig yn methu newid gêr
Sy’n gicwyr di-gyfeiriad â sgiliau trafod Blair,
Yn brin o weledigaeth, heb seren yn eu plith –
Yr unig un twyllodrus yw Corbyn, ‘r asgell chwith.
Y Gwyddyl sydd yn chwarae a’u traed yn dawnsio’n rhydd
A’r Alban, o dan Sturgeon, sy’n gweled toriad dydd.
Fe fydd ‘na gemau pwysig i’w chwarae ym mis Mai,
Ond Jones, nid James, yw Carwyn, a’n gobaith felly’n llai.
Ond pe bai carfan Cymru yn dechrau codi stîm
A phe bai Ellis-Thomas yn well chwaraewr tîm
Fa allai’r ‘Hymns and Arias’ a hen emynau’r cae
I dreiglo, fel pêl rygbi, o’r Stadiwm lawr i’r Bae.
Er colli’n rhacs yng Nghatraeth, mi wn y daw, mynn Duw,
Y fuddugoliaeth fwyaf oll ar ‘gabbage patch’ H. Q.
Idris Reynolds – 9.5
Tir Iarll
“Henaint ni ddaw ei hunan” – dwi 'mhell dros hanner cant,
Felly chwi’r ieuengoed ffodus maddeuwch hyn o rant.
Lle roedd pethau fesul munud, maen nhw rwan fesul awr,
A dwi’n gorfod seicio i fyny cyn imi blygu lawr.
Lle roedd pethau’n dynn a thaclus, mae ’na sgriws yn dod yn rhydd,
Dyw mynd i’r bath ddim problem, y dod ohono sydd.
Mi sgwennais gywydd unwaith am fy ngwallt yn troi yn wyn
Ond diffyg gwallt di’r broblem – dim ei liw o – erbyn hyn.
Dwi’n licio ‘Dechrau Canu’ a gwylio ripîts Cefn Gwlad
A dwi di mynd i swnio’n rhy debyg i fy nhad.
Pan dwi’n mynd i glymu ‘nghria, dwi methu sythu nôl,
Ac mae nghroen fel dynes Salem, yr un sy’n gwisgo’r shôl.
Mae pethau’n shrincio’n gyflym pan da’ch chi’n dod i oed,
A mond rwan ydw i’n deall yr englyn i’r ‘Llwybr Troed’.
Am instagram a snapchat sgin i’m syniad be di’r ffys,
Ac mi gododd rhywun leni i roi sêt i fi ar fys.
A bellach yn fy henaint dwi wedi gweld y sens
Mewn ffeindio lle mae’r giatiau yn lle neidio dros y ffens.
Rhag ofn bod rhai heb ddeall, gadwch fi’i wneud o’n glir:
Henaint ni ddaw ei hunan. Sori, ond mae o’n wir.
Tudur Dylan Jones – 9.5
Llinell ar y pryd: Awn i’r bont yn awr bob un
Crannog
Yn barod am bysgodyn
Awn i’r bont yn awr bob un
Tir Iarll
Awn i’r bont yn awr bob un
I’r wlad ddi Garlo wedyn
0.5
Telyneg(mewn mydr ac odl): Bendith
Mae’r awyr heddiw’n olau, Nyrs,
Ers imi holi’r cwestiwn
A rhoi naill ochr benbleth byd
A chwiw’r ‘petai-petaswn’.
Ac wedi holi’r cwestiwn, Nyrs,
rwy’n deall bydd rhaid derbyn,
a rhoi fy mryd ar fyw i’r awr -
ei mesur sy’n fy erbyn.
Gan hynny, gawn ni drwsio’r cloc
A datgymalu’i fysedd?
Ni fynnaf glec y bach na’r hir
na’u siarsio diamynedd.
Dymunaf gloc ag wyneb glân
Heb dro, heb draul prysuro
Tra mod i’n byw cyn disgwyl gwên
Oes arall i’m cysuro.
Mererid Hopwood – 9.5
Crannog
Yng Nghapel Llwyn-rhyd-owen
A thrwy y broydd hyn
Mae crefydd traed-ar-ddaear
Yn cadw’r fflam yng nghynn.
Yn ddewrach eu dynoliaeth
Hwy safant ar wahân
I herio cloeon bywyd
Heb gymorth Ysbryd Glân.
Gillian Jones - 9
Englyn i reolwr newydd tîm pêl-droed Cymru
Crannog
Er inni golli’r asgellwr a’i gamp
a gawn gan y Crëwr
yn Ryan Giggs, yr un g诺r,
athrylith o reolwr?
John Evans - 9.5
Tir Iarll
Yn eu hanes, ceisia ennyn balchder,
A bydd hyder wedyn
Yn gafael; dim ond gofyn
I Osian ac Ian Gwyn.
Emyr Davies – 9.5
Crannog - 71.5
Tir Iarll - 72