Cerddi Rownd 4
Trydargerdd: Cais Cynllunio
Y Ffoaduriaid
Mond cwt bach oedd yma i ddechra’
ond yna daeth canllaw a grisia’,
lle chwech a thri llawr
fel gwelwch chi nawr.
Da chi dal isio gweld y cynllunia’?
Casia Wiliam - 8
Caernarfon
Codwn wal, un fawr a chas
A thowlu’r Ffoaduriaid mas.
Caiff pob un fynd yn ôl i LÅ·n
A thalu am y wal ei hun
#PwyllgorCynllunioCaerdydd
Ifan Prys – 8.5
Cwpled caeth ar yr odl ‘al’
Y Ffoaduriaid
Os ein cân sy’n ein cynnal,
be di’r otsh am bedair wal?
LlÅ·r Gwyn Lewis - 9
Caernarfon
Mewn hin deg mae’r clymau’n dal
Sigo undod wna sgandal
Ifan Prys – 9.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n cymryd pythefnos o wyliau
Y Ffoaduriaid
Mi welish i'r Cwîn wsos dwytha',
yn Lidl, a'i throli'n llawn fodca.
Efo ffag yn ei cheg,
mi ddwedodd â rheg,
"Dwi'n cymryd pythefnos o wylia’".
Gruffudd Owen – 8.5
Caernarfon
Rwy'n cymryd pythefnos o wylia
Er mwyn cael cefnogi Colombia,
Ac os bydd 'na angen,
Cefnogaf wÅ·r Sweden
Ac Wrwgwai, Belg neu Groatia.
Llion Jones – 8.5
Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Yn wyneb yr haul hawdd iawn yw brolio’
Y Ffoaduriaid
Yn wyneb yr haul, hawdd iawn yw brolio
â hyder golau na fedar goelio
yn yr un duw i'r neb a wrandawo,
ac mi dynnith resymeg amdano'n
un cwrlid; ond er cyrlio mor ddiddos,
o grombil hirnos, gŵyr ymbil arno.
LlÅ·r Gwyn Lewis - 10
Caernarfon
Yn wyneb yr haul hawdd iawn yw brolio
â grym adweithiol y gorymdeithio
yn euro’i fedal; mae gwres brafado
fel lifrai cyndyn yn dynn amdano.
Ond wedi’r dril mae’n cilio yn ddi-boer,
mor welw â’r lloer a’i chwys oer yn suro.
Llion Jones – 9.5
Pennill ymson llyfrgellydd
Y Ffoaduriaid
Rhwng y Cylch Ti a Fi sy bob bore mor llon
yn canu’r un gân fel blydi tiwn gron
ac yna bob Mercher ac Iau, y criw gweddi
sy’n mynnu amenio yn uwch na’r un babi,
a’r nain na sy’n hogio’r compiwtar am oria
i Skypio ei hwyrion hi draw yn Ostrêlia
(dwi’n siŵr sa nhw’n chlywad hi heb y dechnoleg)
a’r stiwdant rhy ddiog i fynd mewn i’r coleg,
a trio rhoi trefn ar y ffernols sy’n mynnu
bod ganddyn nhw hawl i chwe bag ailgylchu,
mae’r llyfrgell di troi yn lle swnllyd uffernol
ers iddyn nhw’i henwi yn Hwb Cymunedol.
Ac felly dw inna, mewn môr o rialtwch
yn ysu am amsar mynd adra, a heddwch
i ddarllen fy llyfrau i gyd mewn tawelwch.
LlÅ·r Gwyn Lewis – 8.5
Caernarfon
Mae’r mud gaethiwed ddydd ’rôl dydd
Yn chwarae ar fy nerfa,
A’m henaid yn ymgasglu’n sgrech –
Ond rheola ’di rheola…
Emlyn Gomer – 8.5
Cân ysgafn: Dadl Dau
Yn dilyn sylwadau diweddar Arfon Wyn ar arlwy cerddorol Radio Cymru.
(i’w chanu ar y dôn ‘Yr hogia go iawn’)
Llais A
Dwi'm yn licio miwsig weird. Dwi ishio miwsig canol y ffordd.
Dwim ishio clywed synth a thri sitar yn cael eu chwalu efo gordd.
Dwi ishio miwsig pobol normal. Dwi’m ishio band o Viet Nam
yn pwmpio fusion gwerin funk i glustia druan Mam.
Mae'n well gen i, gael bandia go iawn! Bryn Fôn yn y bora, a Sobin drwy’r prynhawn.
Llais B
Dwi'm yn licio Elin Fflur, Wil Tân nac Arfon Wyn
a dwi'm ishio clywed reggea gan foi dosbarth canol gwyn.
Dwi'm yn licio John nac Alun. Mae nhw mor hen ffash,
ac mae miwsig Tecwyn Ifan mor secsi â'i fwsdash.
Mae’n well gen i gael rywbeth newydd yn yr iaith.Yn lle sefyll yn stond yn 1977.
Llais A
Dwi’m yn licio bandiau newydd, arbrofol o Gaerdydd,
sy’n cael llwyth o air time gan Tudur Owen er bod nhw’n swnio fel dolur rhydd.
Dwishio Rosalynd a Myrddin. Di’r Gymraeg ddim yn gweddu hip hop.
Mae rhywun go uchel yn radio cymru yn haeddu’r blydi chop.
Mae’n well gen i ganeuon efo tôn, am ferched del a thraethau Ynys Môn.
Llais B
Dwi’m yn licio miwsig hen bobol, sy’n bla ar ein gorsaf ni
Dwishio cân sy’n iwshio mwy o gordiau na C ac F a G.
Dwishio Punk, dwishio Acid Fusion, dwishio mwy o gerddoriaeth byd
yn lle hynny dwi’n cael Dafydd Iwan yn canu Yma o hyd ac o hyd.
Mae’n well gen i, gael caneuon go iawn o’r ganrif hon, gan gerddorion gyda dawn.
Gruffudd Owen – 9.5
Caernarfon
Cyfarchion Kimosabi! A chroeso i’r Three Bells. Hawddamor Tonto ffyddlon – be dwi’n da’n Llandrindod Wells?
Esbonia imi’n gryno – paham y signals mŵg? Wyt ti angen y Lone Ranger er mwyn ymlid dynion drwg?
Ti di’r drwg y dyddiau yma, o ynfytyn masgiog ffôl! Dw’isio bywyd fel yr oedd o, a’r Lone Ranger doeth yn ôl!
Pardduo fy nghymeriad oho aha aiê? A minnau’n arwr miloedd? Hiyo Silver, ac awê!
Arhosa Kimosabi – tria beidio tynnu’n groes: mi ’chubais i dy fywyd – ’dan ni’n ffrindia bora oes!
Am y rheswm hynny’n unig mi ro’i glust i dy apêl. Sut y gallaf wyrdroi pethau? Stopia brynu’r Daily Mail!
Ti’n dinistrio popeth nest ti sefyll drosto ers cyn cof wrth hobnobio efo’r prat Farage, Rees-Mogg a Michael Gove!
Ond mae gormod o fewnfudo – mae’n fy nghadw ar ddihun. Sbia yn y drych Lone Ranger – ’dwyt ti’n immigrant dy hun!
Dadl dau dadl dau dadl dau dau dau, dadl dau dadl dau dadl dau dau dau,
Dadl dau dadl dau dadl dau dau dau, dadl daaau – dadl dau dau dau.
Mae’r ffeithiau yn dy erbyn – ti angen dadl dda, dim rhoi’th fysidd yn dy glustia a mynd “la la la la la”.
Paid â sôn ’tha i am ffeithiau, nac am arbenigwyr chwaith – fydd dim angen dim byd fel’na ar ein gogoneddus daith!
Mae’n ymddangos, Tonto, fod ein trafodaethau’n taro wal. Paid â ’ngalw fi yn Tonto’r brych – mae’n Sbaeneg am “dw-lal”!
Os na fyddi’n dawel, Croengoch, fyddai’n dechrau mynd yn flin, a fydd gen i’m dewis ond rhoi bwled arian yn dy dîn!
Mae safon y drafodaeth yma yn dirywio’n chwim. Cym honna! Aw! Cym honna! Aw! ’Di hyn yn datrys dim.
Mae dy ddadlau oll yn ofer – cefais ddigon ar dy ffilth: er fy mod i yn ddirwestwr, dwi’n mynd lawr am beint i Builth.
Paid a gadael, Kimosabi, cyn i mi fynegi’m loes fod y refferendwm wedi hollti cyfeillgarwch oes!
Ffarwel Tonto – cyrchu’r machlud ar fy ngheffyl yw fy nod. Llongyfarchion – flwyddyn nesa bydd dy fachlud wedi dod!
Dadl dau dadl dau etc. Hiyo Silver! Awê...
Emlyn Gomer – 9.5
Ateb Llinell ar y Pryd: O’r smotyn gwyn sgoriais gôl
Y Ffoaduriaid
O’r smotyn gwyn sgoriais gôl
VAR roes y farwol.
0.5
Caernarfon
Nirfana’r rownd derfynol
O’r smotyn gwyn sgoriais gôl.
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Caffi
Y Ffoaduriaid
Wrth frwsho’r llawr a sychu’r fordydd
mae hi’n dal i ddisgwyl smic ei ffôn
dros glincian y mygiau.
Mae e’n diweddaru ei CV’n ddiwyd
nes bod briwsion ei dost yn tasgu.
Mae na ddau sy’n pysgota am sgwrs
yng ngwaelod eu cappuccinos
a phensiynwraig sy’n gweld bai ar ei sgonen.
Edrychwch ar y babi sy’n gwgu ar bawb
gan gynnwys y dyn sy’n magu mwg gwag,
gan nad yw’n moyn mynd sha thre.
Ac mae na ferch yn y gornel
yn cysgodi tu ôl i ddalen wag
a fyddai wrth ei bodd
yn cael brwsho’r llawr a sychu’r fordydd.
Hyn i gyd rhwng brecwast a chinio
un bore braf ym mis Mai.
Gwennan Evans – 9.5
Caernarfon
Pen bom oedd gen i 'stalwm –
tasgu'n ifanc i sgyrsiau ar bob llaw...
'Byta'n ysgafn heddiw?' yw gwefus-gwestiwn Bet,
a gwenaf yn boleit. Pwyll trwm-ei-glyw
piau hi bellach...
Caf yr un croeso brysiog ag arfer heddiw;
slempan hel briwsion o'r bwrdd ger fy mron...
A gwelaf y til yn cau yn y cefndir
a chofio am ddrôr cyllyll nain;
gwelaf gadair yn crafu'r llawr
a chofio'i sŵn carthu gwddw;
a gwlitho-gweld llond coets o weiddi mud...
Aiff dwy awr heibio,
a'r siwgwr gwasgar o gryndod fy llwy
yn gytser ar fwrdd y prynhawn...
Yna codaf, a bron imi glywed
sŵn fy mhunt yn mynd i gesail soser –
atalnod llawn ar gyfathrach na fu...
Ifor ap Glyn - 9.5
Englyn: Trosedd
Y Ffoaduriaid
Trump, a phlant y ffin
 hyder oer, fe daera’i wedd heulog
na wna’i ddwylo glanwedd
yntau gymaint o gamwedd
â gloyn byw uwch glan bedd.
LlÅ·r Gwyn Lewis – 9.5
Caernarfon
Mudant o hyd ond mae’r cudyll yn hel
gwenoliaid i wersyll
a hwythau’n gaeth yn y gwyll
a’u cywion yn y cewyll.
Ifan Prys – 10