Cerddi Rownd 1
TRYDARGERDD: Hysbysebu App Newydd
Penllyn
Os yw’r hen broblem ‘leni’n
Y Steddfod yn eich poeni,
Fe gewch chi gyrraedd i bobman
Da’r ap hunan luosi.
Beryl Griffiths – 8.5
Ysgol y Berwyn
Mae gennyf app sy’n handi
Mae’n handi nôl y sôn
mor handi a watsh siocled
sef app i ffeindio’n ffôn.
Delyth Humphreys – 8.5
CWPLED CAETH yn cynnwys y gair ‘cot’ neu ‘côt’
Penllyn
Tynna dy gôt, enaid gwan;
Diosg faich dy wisg fechan.
Gruffudd Antur - 9
Ysgol y Berwyn
Gwely sâl mewn golau sêr
yw un gôt ger y gwter.
Huw Dylan – 8
LIMRIG yn cynnwys y llinell ‘Mor bwysig yw caru ein cyd-ddyn’
Penllyn
Fe daflodd y wraig ef o’u tyddyn
‘Rôl ei ddal yng ngwely y forwyn,
Wrth adael y t欧
Fe waeddodd yn hy
“Mor bwysig yw caru eich cyd-ddyn”
Alwyn Sion - 8
Ysgol y Berwyn
Rwyf weithiau yn hoff iawn o’r meuryn,
Ambell dro rwy’n closio at Merfyn,
Af weithiau at Barry
neu Laurel neu Hardy,
mor bwysig yw caru ein cyd-ddyn.
Delyth Humphreys - 8
CYWYDD: serch
Penllyn
Rhois fy serch i ferch o Fôn
Ciliodd a thorri’m calon.
Yna daeth i’m mywyd i
Un luniaidd i’m bodloni,
Yn gymar ac yn gariad
Yn hon mae fy holl fwynhad.
Mor llon, hi yw’r ffyddlonaf,
Hon yw’r haul, hon ydyw’r haf.
Heno daw a’i thrwyn bach du
Yn wasaidd i’m hanwesu,
Cosi’ bol a’i haddoli,
Un chwim yw fy Fflei fach i.
Alwyn Sion – 8.5
Ysgol y Berwyn
Annwyl Nel,
Hyn a welaf:
Bore oer, rhyfelgar, braf,
loced a s诺n bwledi
a dal yn dynn dy lun di,
erys dy wên, rwy’n tristhau,
swyn yw gwên, s诺n yw gynnau,
er mewn ffos llun fel rhosyn
sy’n fy nghynnal, dal yn dynn
I’r hafau cyn bo rhyfel
A neb i’n gwahanu Nel,
Dy weld, rwy’n dyheu yn don,
Pob hwyl, Nel Annwyl,
Einion
Arwel Emlyn – 8.5
PENNILL YMSON wrth ddewis cerdyn Santes Dwynwen
Penllyn
Mi brynaf iddi gerdyn
A rhoddaf iddi rosyn.
Rwyf i’n ei charu hi yn fwy
Na’r ddwy sydd ar dîm Penllyn.
Aled Jones – 8.5
Ysgol y Berwyn
Rhaid prynu pedwar cerdyn
I’r pedair merch a’m câr
Ac rhag ofn daw rhywun arall
rhaid prynu cerdyn sbâr.
Huw Dylan- 9
CÂN YSGAFN (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Diwrnod Agored neu Y Noson Agored
Penllyn
Roedd Vernon ar drothwy’r nawdegau, ac angen llawdriniaeth ar frys,
Ar gychwyn yr oedd o i’r plygain pan d’rawyd o’n lafar o chwys.
“Gen i gerrig mewn cerrig” medd Vernon “a rheini run faint a phen glîn”.
Roedd yn “ddrama” ei weld o yn gwingo, ac angen “saer bolie” i’w drin.
Roedd Vernon yn briod a Gwenfair a hynny ers bron iawn cyn co;
A honno ymhell yn ei naintis a’i “shelf life” yn hirach na glo.
Ni wyddai hi ystyr ymddeol, nac ystyr segurdod ychwaith,
Ac felly yn anrheg Nadolig derbyniodd eiriadur o’r gwaith.
Y llawfeddyg ddywedodd wrth Gwenfair “mae edau eich cymar mor frau
Os y cawn amser i’w agor, - go brin y cawn amser i’w gau!”
“Dim ots” meddai Gwenfair yn eiddgar, “agorwch ei fol ar unwaith
A gad’wch o wedyn ar agor, mae’r plygain yn cychwyn am saith”.
Am hyn lawfeddyg brysia, fel yr wyt, fel yr wyt
At Gwenfair heddiw’r bore, fel yr wyt
Rhaid iti agor Vernon o gylch ei sennau gwynion
Ei gerrig sydd fel almonds – Arwr wyt.
A gwelwyd y ddau yn dod braidd yn hwyr, i’r plygain eleni wedi blino yn llwyr
Mae’n rhaid i mi ddweud rwy’n edmygu y ddau, Gwenfair a Vernon a’i fol heb ei gau
Dychmygais unwaith fod rhywbeth yn rhydd, ond daliwyd i mewn dan ganeuon ffydd!
Os daw y plygain drachefn i’r gymuned, fe gofir am Vernon a’i noson agored.
Aled Jones - 10
Ysgol y Berwyn
Roedd diwrnod agored yn Uffern i bawb gael gweld y lle
A’r diafol mewn siwt drwsiadus yn egluro be oedd be.
Anghofiwch am dân a brwmstan a rhostio’r pechadur gwael
Mae’n groes i hawliau dynol, yn syml da ni ddim yn cael.
Mae sawl ffordd arall i gosbi, sawl ffordd i achosi cur
Ac yma mae arbenigwyr ar droi y melys yn sur.
Fe welwch fod Uffern di rhannu yn is-adrannau lu
Pob un mewn adeilad modern, pob un a ffenestri du.
Uwchben pob drws mae geiriau sydd yn gyfarwydd iawn i ni
‘Gwnewch i eraill fel y dymunwch i eraill wneud i chi.’
Mae’r bobl a welwch chi yma yn cael eu trin i gyd
Yn union fel y bu iddynt drin eraill wrth fyw’n y byd.
Does yma ddim ysgolion, mae pob athro di mynd i’r ne’
Ond mae arolygwyr Estyn a Gwe yn llenwi’r lle.
Cawn sgriptwyr/gomisiynwyr S4C o hyd
Fel cosb am greu rhaglenni gyda’r diflasa yn y byd.
Mae gennym feirdd o ryw fath ac ambell feuryn gwael
Fu’n fyr ei air o ganmol a’i farciau ddim yn hael.
Mae croeso mawr yn uffern i bobl o bob ffydd
Ac yma heb amheuaeth Tim Penllyn ddaw rhyw ddydd.
Huw Dylan – 9.5
LLINELL AR Y PRYD: Yn y bath mae’r byd mor bell
Penllyn
Pyongyang ac Aberangell
yn y bath mae’r byd mor bell
0.5
Ysgol y Berwyn
Yma, rhyw hedd sy’n cymell,
yn y bath mae’r byd mor bell
0.5
TELYNEG (heb fod dros 18 llinell): Trafferth
Penllyn
Dwi'n gwneud fy rhan -
yn didol darnau o'm byw blêr
i flychau taclus,
pan ddaw amynedd,
rhwng rheidrwydd
y sgrolio trwy sgyrsiau'r sgrîn.
Job fudur, a'm dwylo'n stremp
diferion surni'r llaeth a gwin neithiwr.
Ond yn T欧 boilar,
cyn bod ailgylchu yn air,
na nôd, na chanran
yn ddim i'w wneudâ thun dal hoelion triog du -
roedd gen ti strategaeth,
i ddal llygod -
er na wyddet ti mai dyna oedd
y twll a'r gwenwyn yn y bocs eis crîm.
Wedyn, rôl cyrraedd y targed,
fe fyddet ti'n eistedd
ar y fainc yn ffrynt,
i sgwrsio, efallai,
efo bois y lori ludw.
Haf Llewelyn – 9.5
Ysgsol y Berwyn
Lle mae cyhuddiadau’n cael eu gwneud
Y mae tawelwch ym mhob dweud,
yng nghorneli’r coridorau mae pethau’n troi
fel mewn ffae llewod, heb le i ffoi,
rhai yn cael clust, eraill yn fud,
“a beth sydd ‘di digwydd?” “Na dim mae’n iawn, dim, dim byd.”
A lle mae’r drysau yn cau yn glep
Nid oes lle i gerdded allan o step,
Prysur obeithio bydd popeth yn iawn
Heb agor Bocs Pandora yn llawn;
Ond wrth agor y bocs ychydig bach
Er mwyn anadlu ynghanol strach
Aeth mwg y bocs i’r pedwar gwynt
A dioddefaint ar ei hynt
A’r siarad gwag fel gyrru plu
I’r pedwar ban a’r mwg yn ddu,
A’r plu sy’n chwyrlio yng nghorwynt cybôl
Yw’r plu mawr du na ddaw yn ôl.
Arwel Emlyn - 9
ENGLYN: Ysbryd
Penllyn
(i Osian Rhys Jones)
Awn heibio’r hen, hen ddibyn hwn bob dydd
nes bod awch ar rywun
i neidio, a chael wedyn
ddringo’n ôl yn hollol wyn.
Gruffudd Antur – 9.5
Ysgol y Berwyn
Os beunydd bu Espania – yn hawlio
heolydd Guernika
nid yw’n iawn dywedyd ‘na’
i lonydd Katalunya.
Arwel Emlyn - 9