Ysgolion: Ystyried newid amserlen arholiadau
- Cyhoeddwyd
Yn ystod cynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams fod Cymwysterau Cymru, y corff sy'n rheoleiddio cymwysterau, mewn trafodaethau gyda rheoleiddwyr eraill yn y DU am newidiadau posib yn amserlen arholiadau yn yr haf.
Dywedodd fod y cydbwyllgor addysg eisoes wedi dweud wrth athrawon am addasu cyrsiau er mwyn hwyluso'r gwaith o asesu.
Dywedodd fod y newidiadau hyn yn mynd ymhellach nag yn Lloegr.
Ond ychwanegodd y byddai gohirio arholiadau yn cael effaith ar bethau fel dilyniant addysg a'r diwrnod canlyniadau.
Dim dirwyo
Yn gynharach ddydd Mawrth, dywedodd Ms Williams y bydd y drefn ar gyfer dirwyo rhieni sydd ddim yn danfon eu plant yn 么l i'r ysgol yn cael ei adolygu yn 么l y gweinidog addysg.
Daw sylwadau Kirsty Williams wrth i blant baratoi i ddychwelyd i'r ysgol ar 么l gwyliau'r haf.
Oherwydd pryderon am coronafeirws bydd dirwyon am driwantiaeth ddim yn cael eu rhoi ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.
Dywedodd Ms Williams fod angen rhoi sicrwydd i rieni fod pethau'n ddiogel yn hytrach "na'u bygwth gyda dirwyon."
Fe wnaeth ysgolion Cymru ailagor ddiwedd Mehefin am dair wythnos cyn gwyliau'r haf ar 么l y cyfnod clo.
Ond yn 么l ffigyrau Llywodraeth Cymru fe wnaeth bron i 40% o ddisgyblion benderfynu peidio dychwelyd.
Wrth gyfeirio at y cyfnod cyn gwyliau'r haf dywedodd Ms Williams bod rhai rheini wedi bod yn bryderus am y sefyllfa.
"Ond wrth i rieni weld plant eraill yn dychwelyd i'r ysgol, a bod hyn yn cael ei wneud mewn modd mor ddiogel 芒 phosib, a bod plant yn cael budd, fel welsom hyder rhieni yn dychwelyd," meddai mewn cyfweliad ar raglen Breakfast 91热爆 Radio Wales.
Dywedodd y byddai'r sefyllfa yn cael ei adolygu yn ystod y tymor, gan gynnwys rhoi dirwyon i rieni'r plant sy'n absennol.
"Rydym am gael trafodaethau er mwyn rhoi sicrwydd i rieni, yn hytrach nag eu bygwth gyda dirwyon," meddai.
Profion i staff a disgyblion
Dywedodd Ms Williams fod dychwelyd i'r ysgol yn "allweddol" ar gyfer datblygiad ac iechyd plant a bod pob cam yn cael ei gymryd i leihau risg.
Ychwanegodd er bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau fod ysgolion mor ddiogel 芒 phosib, doedd yna ddim opsiynau oedd yn gwbl rydd rhag risg yn ystod y pandemig.
Pwysleisiodd ei bod yn bwysig fod plant ysgol yn cael profion pe baent yn dangos symptomau.
"Bydd pob plentyn sy'n tagu yn barhaol, gyda thymheredd neu yn colli blas a gallu arogli yn gorfod cael prawf," meddai.
"Rwy'n gwerthfawrogi wrth i ni ddod at gyfnod y gaeaf bod modd drysu hyn gydag anhwylderau eraill ond ar hyn o bryd bydd angen i unrhyw blentyn neu aelod o staff sy'n dangos unrhyw symptomau gymryd prawf."
'Adnoddau ychwanegol'
Yn 么l Ms Williams byddai adolygiad corff annibynnol sy'n edrych ar yr hyn ddigwyddodd i'r broses o ddyfarnu cymwysterau eleni yn cael ei adrodd ym mis Hydref, gydag adroddiad terfynol ac argymhellion yn cael eu rhyddhau ganol Rhagfyr.
Dywedodd y byddai gwersi yn cael eu dysgu.
Yn ystod y gynhadledd cyfeiriodd at waith ymchwil oedd yn codi pryderon am effaith colli ysgol ar addysg plant - yn enwedig ar fechgyn a disgyblion o gartrefi difreintiedig.
Dywedodd fod 拢29m yn ychwanegol wedi ei ddarparu ar gyfer cynghorau Cymru, er mwyn rhoi mwy o adnoddau i ysgolion i roi ffocws penodol ar ddisgyblion fydd yn eistedd arholiadau allanol a'r "addysgwyr mwyaf bregus".
Pryderon eraill
Yn y gynhadledd, fe wnaeth y gweinidog hefyd son am bryderon Llywodraeth Cymru am ddiffyg cyfyngiadau posib ar awyren ddaeth i Gaerdydd o Zante wythnos yn 么l.
Bydd rhaid i bron 200 o bobl hunan ynysu am bythefnos wedi i nifer o deithwyr ar awyren Tui brofi'n bositif am Covid-19.
Dywedodd Ms Williams fod y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn siarad gyda'r bobl berthnasol ac y bydd yn gwneud datganiad yn ddiweddarach.
Dywedodd Ms Williams hefyd ei bod yn deall rhwystredigaeth pobl Banwen ger Bannau Brycheiniog lle cafodd r锚f anghyfreithlon ei gynnal dros y penwythnos.
Dywedodd: "Yr hyn fyddwn i'n dweud wrth bobl aeth yno yw hyd yn oed os nad yw'n bryder i chi eich bod yn peryglu eich iechyd eich hunan, cofiwch eich bod yn mynd adre at anwyliaid ac i'ch cymuned."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2020
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd23 Awst 2020
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020