91热爆

Ysgolion Cymru yn ailagor am y tro cyntaf ers tri mis

  • Cyhoeddwyd
Robyn a Sophia Mico
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sophia Mico (dde) yn anfon ei merch Robyn yn 么l i'r ysgol bob dydd Mawrth am dair wythnos

Bydd grwpiau o ddisgyblion yn dechrau dychwelyd i'r ysgol ddydd Llun i gael cyswllt gydag athrawon cyn gwyliau'r haf.

Mae ysgolion Cymru wedi bod ar gau i'r rhan fwyaf o blant ers 20 Mawrth, fel rhan o'r ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

Mae'r trefniadau'n amrywio o ysgol i ysgol ond bydd mesurau mewn lle i gadw pellter a sicrhau glendid.

Dim ond am gyfnodau byr bydd plant yn dychwelyd, a bydd rhai rhieni yn dewis peidio anfon eu plant yn 么l cyn yr haf.

Disgrifiad,

"Diwrnod emosiynol" wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol

Fe fydd Nia, sy'n 11 ac ym mlwyddyn 7 Ysgol Uwchradd Crughywel, yn dychwelyd i'r ysgol ddydd Llun.

Yn byw yn Ngilwern ger y Fenni, mae hi'n dweud ei bod yn edrych mlaen i weld ei ffrindiau wyneb yn wyneb ond mae'n teimlo ychydig yn "bryderus" am fynd n么l i'r ysgol.

"Byddwn ni methu gweld ein ffrindiau i gyd, byddwn ni mewn grwpiau bach a bydd hi'n od bod n么l yna," meddai.

"Gan bo' fi ddim wedi bod yn yr ysgol am amser hir dwi'n becso fyddai'n colli fy ffordd o amgylch."

Ansicr am y dysgu

Fe fydd Nia yn treulio diwrnod cyfan yn yr ysgol, unwaith yr wythnos tan ddiwedd y tymor.

Fe gafodd y teulu lythyr i esbonio'r trefniadau newydd.

"Dwi'n credu byddwn ni'n mynd i'r dosbarth, cael gwersi a wedyn yn cael ein brechdanau yn y dosbarth heb fynd allan a wedyn mynd n么l i'r gwersi," meddai.

Mae mam Nia, Angharad, yn teimlo na fydd modd ailgydio yn y dysgu cyn gwyliau'r haf.

"Mae diwrnod yn ddigon i weld ffrindiau ond am ddysgu - na," meddai.

"Mae'n bwysig i feddwl am e-learning, live lessons a phethau fel hyn - achos ma' Nia ishe dysgu, ma' hi'n gallu gweld ei ffrindiau yn yr ardal - ond beth yw'r pwynt i fynd i'r ysgol i wneud hyn?

"Mae'n bwysig i ganolbwyntio ar fis Medi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nia (chwith), ei mam a'i thad, Angharad ac Owen, a'i chwaer Haf

Ac er bod y teulu wedi penderfynu bydd Nia yn dychwelyd, bydd ei chwaer fach Haf ddim yn mynd n么l i'r ysgol gynradd cyn yr haf.

Does dim gorfodaeth ar rieni i ddanfon eu plant i'r ysgol dros yr wythnosau nesaf.

Mae rhai yn poeni am ddiogelwch, mae yna ddisgyblion eraill sy'n cysgodi a'n methu dychwelyd neu'n wynebu problemau yn cyrraedd yr ysgol oherwydd cyfyngiadau ar gludiant ysgol.

Er bod canllawiau'r llywodraeth yn awgrymu y dylai plant gael o leiaf tair sesiwn yn yr ysgol cyn yr haf, mae rhai wedi cael cynnig cyn lleied 芒 hanner diwrnod dros yr holl gyfnod.

Yn ogystal, y disgwyl oedd y byddai ysgolion ar agor am bedair wythnos cyn y gwyliau, gan ychwanegu wythnos i'r tymor.

Ond methodd y Llywodraeth, undebau a chynghorau gytuno, ac mae mwyafrif helaeth yr awdurdodau lleol wedi dweud na fydd ysgolion ar agor am bedwaredd wythnos.

Serch hynny mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi dweud bod y cyfnod nesaf yn gyfle gwerthfawr i ddisgyblion gwrdd wyneb yn wyneb gydag athrawon a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi.

Roedd gwneud y penderfyniad i ddanfon ei merch Robyn i'r ysgol wythnos yma yn un anodd i'w rhieni.

Mae gan y ferch naw oed o Gaerdydd gyflwr sy'n effeithio ar ei system imiwnedd.

"Wnes i feddwl ddim danfon hi n么l," meddai mam Robyn, Sophia Mico.

"O'n i jyst yn ymwybodol o'i hanes, yn ymwybodol o'r ffigyrau marwolaeth Covid a meddwl, ydy o werth y risg, ydy o werth danfon hi mewn?

"Mae hi 'di bod yn yr ysbyty gyda phethau normal - gyda chicken pox roedd hi yn yr ysbyty am bythefnos. So oedd hi'n real concern.

"Ond wnaethon ni siarad i'r specialist nurse a mae hi 'di dweud bod profion gwaed hi 'di dod n么l mwy neu lai yr un peth 芒 phlant sydd ddim yn s芒l, so mae'n rhaid i fi gymeryd calculated risk."

Fe fydd Robyn yn dychwelyd i flwyddyn pedwar mewn ysgol yng Nghaerdydd bob dydd Mawrth am y tair wythnos nesaf.

Mae hi'n dweud ei bod hi'n edrych ymlaen i cael pecyn bwyd nid cinio ysgol, a pheidio gwisgo gwisg ysgol, ond fydd hi'n gweld eisiau chwarae gemau cyfrifiadur rhwng gwersi gyda'i mam.

"Mae hi'n well o ran iechyd meddwl fod hi yn yr ysgol yn gweld pobl," meddai Sophia, "a ddim yn styc yn y t欧 gyda Mami dim mwy."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sophia Mico a'i merch, Robyn

Wrth i rieni bwyso a mesur, mae ysgolion wedi bod yn gwneud y paratoadau i groesawu disgyblion yn 么l.

Mae staff Ysgol Uwchradd Caereinion ym Mhowys yn hyderus eu bod wedi gosod trefniadau mewn lle i leihau risg cymaint 芒 phosib.

Disgyblion Blwyddyn 12 yn unig fydd yn dod i'r ysgol ar y diwrnod cyntaf, gyda blynyddoedd eraill yn cael cyfle weddill yr wythnos.

I ysgol mewn ardal wledig ble mae rhai plant yn treulio awr yn teithio i'r ysgol, mae trefniadau cludiant wedi bod yn her.

Dim ond wyth disgybl fydd yn gallu teithio ar bob bws a bydd rhaid i bawb ddod 芒 phecyn bwyd i'r ysgol gan fod y ffreutur ar gau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Disgyblion Blwyddyn 12 yn unig fydd yn dod i Ysgol Uwchradd Caereinion ddydd Llun

Fe fydd disgyblion yn aros yn yr un dosbarth drwy'r dydd, a systemau glanhau a golchi dwylo rheolaidd mewn lle.

Lles yw'r flaenoriaeth yn ystod y cyfnod yma yn 么l Rhian Mills sy'n athrawes ddaearyddiaeth ac yn aelod o'r uwch d卯m rheoli.

Dywedodd mai'r nod yw "gwneud yn si诺r bod pob un disgybl yn teimlo'n hapus ac yn gallu edrych n么l ar beth sydd wedi digwydd dros y misoedd diwetha' ac yn gallu trafod".

"Maen nhw prin wedi cael y cyfle i drafod gyda chyd-ddisgyblion neu gydag aelodau o staff," meddai.