Rhif R: Beth ydy o a pham ei fod yn bwysig?
- Cyhoeddwyd
Mae'r raddfa mae'r coronafeirws yn cael ei drosglwyddo yn y gymuned wedi disgyn yn sylweddol o'i gymharu 芒 sut yr oedd ar ei anterth yn 么l GIG Cymru.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Dr Andrew Goodall, fod y rhif R o dan un ond ei fod "dwy neu deirgwaith" hynny yn gynharach yn ystod y pandemig.
Mae'r rhif yn allweddol wrth i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau at y dyfodol am lacio cyfyngiadau ar symudiadau pobl, a bydd diweddariad am hynny'n cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.
Ond beth yw graddfa R?
Dyma'r nifer o bobl ar gyfartaledd y gall person sydd yn s芒l basio'r feirws ymlaen atyn nhw.
Felly os yw'r rhif R yn 1, ar gyfartaledd fe fyddai 10 person sy'n dioddef o Covid-19 yn heintio 10 person arall.
Ond os yw R yn 0.8 yna byddai 10 person sy'n s芒l efo'r haint yn heintio wyth arall.
Gorau oll po isaf yw'r rhif a'r nod yw ei fod o dan un. Mae cynnydd yn y rhif yn cyfyngu ar allu gwleidyddion i godi'r cyfyngiadau ar y cyhoedd.
Hefyd mae'n golygu os yw'n uwch nag un y gallai yna fod cynnydd mawr ac ail frig mewn achosion.
Beth yw'r rhif R yng Nghymru?
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos mai dim ond o ychydig dan un yw'r rhif R yma.
Ar 22 Mai dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod y rhif tua 0.8 ond y byddai ganddo ddiweddariad erbyn 28 Mai.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud eu bod yn ceisio deall yr "amrywiaeth rhanbarthol" o fewn y rhif yma ar draws Cymru.
Pam fod y rhif yn bwysig?
Dywed Dr Goodall fod y rhif yn ystyriaeth bwysig pan maen nhw'n gwneud penderfyniadau. Mae unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd o safbwynt y cyfyngiadau am gael effaith ar raddfa lledaeniad y feirws meddai.
Fe wnaeth Mr Drakeford gyhoeddi dogfen oedd yn darogan faint o bobl fyddai yn gorfod mynd i'r ysbyty, gan edrych ar bosibiliadau gwahanol o safbwynt y rhif R.
Byddai dim ond cynnydd bach yn y rhif R yn golygu miloedd yn fwy yn yr ysbyty a chymaint 芒 7,200 o farwolaethau.
Yn 么l y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething dyma'r ffactor mwyaf pwysig wrth benderfynu pryd fydd y cyfyngiadau yn cael eu codi.
"Mae'r ffigwr sydd yn dweud wrthon ni pa mor gyflym mae'n lledaenu, neu ddim yn lledaenu, ar draws Cymru neu y lefel mae'r feirws yn gostwng yn bwysig iawn i ni," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020