Peidio mynd i'r ysgol yn fwy o risg hirdymor na Covid
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd i roi sicrwydd i rieni bod hi'n ddiogel i blant ddychwelyd i'r ysgol fis nesa.
Dyw plant, medd y swyddogion, ddim yn debygol iawn o ddal yr haint ond "mae colli gwersi yn niweidiol iawn yn y tymor hir".
Mae disgwyl i filiynau o ddisgyblion Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ddychwelyd i'r ysgol yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae swyddogion a dirprwy swyddogion ar draws y DU yn dweud nad oes dewis heb risg yn perthyn iddo ond yn pwysleisio bod hi'n bwysig i rieni ac athrawon ddeall beth yn union yw'r risg a'r budd o ailagor ysgolion.
"Gallai peidio mynd i'r ysgol arwain at salwch meddwl a chorfforol," ychwanega datganiad y prif swyddogion ac ychwanegont bod y rhan fwyaf o'r plant sydd wedi marw o Covid-19 yn dioddef o gyflyrau iechyd yn barod.
Faint o fyfyrwyr?
Yn y cyfamser wedi dryswch yngl欧n a chanlyniadau Safon Uwch, mae cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dweud y bydd y sgil effeithiau yn parhau y flwyddyn nesa.
Ar raglen Dewi Llwyd bore ma dywedodd Yr Athro Richard Wyn Jones, bod "yna anrhefn ac nad ydyn nhw yn gwybod faint o fyfyrwyr fydd yn eu cyrraedd fis nesa".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2020