91热爆

GwyddonLe - prifysgol yn cefnogi

Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru gydag Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B Davies a'r Dirprwy Is-Ganghellor, Yr Athro Iwan Davies

07 Chwefror 2011

Bydd yr Urdd yn cael help gan Brifysgol Abertawe i gynnal gweithgareddau gwyddonol ar faes yr Eisteddfod eleni.

Croesawyd y bartneriaeth gan Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd.

"Mae 'GwyddonLe' yn brosiect arloesol fydd yn un o atyniadau blaenllaw Eisteddfod yr Urdd eleni eto ac mae'n diolch ni'n fawr iawn i'r Brifysgol, nid yn unig am ei nawdd hael ond am ei harweiniad ym maes gwyddoniaeth," meddai wrth gyhoeddi'r newyddion Chwefror 7, 2011.

Yn newydd i'r Maes y llynedd, roedd GwyddonLe yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd y Maes yng Ngheredigion y llynedd gydag arddangosfeydd rhyngweithiol, arbrofion a gweithgareddau ymylol.

Dywedir i bobl ifanc ymateb yn "bositif iawn".

Gyda'r bwriad o adeiladu ar y llwyddiant hwnnw dywed yr Urdd fod trafodaethau 芒 nifer o gwmn茂au a chyrff lleol "er mwyn creu arddangosfeydd amrywiol ac unigryw".

I'r ysgolion

Sefydlwyd gweithgor gyda'r Brifysgol fel rhan allweddol o'r cynllunio a dwy o wyddonwyr y Brifysgol yn cadeirio.

Bwriedir hefyd fynd 芒'r gwaith allan i rai o ysgolion Abertawe a'r fro o flaen llawn a chynnal gweithgareddau gwyddonol cyn dangos ffrwyth y gwaith ar y Maes.

Meddai'r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, "Mae'r bartneriaeth rhwng Eisteddfod yr Urdd a Phrifysgol Abertawe yn adeiladu ar lwyddiant Academi Hywel Teifi, lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2010 sy'n darparu canolbwynt i'r amrywiaeth eang o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ne Orllewin Cymru."

Ychwanegodd bod gan Brifysgol Abertawe 3,500 o fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg, y nifer uchaf yn yr ardal a bod cyfle i gannoedd o bobl ddysgu'r Gymraeg drwy hwyluso addysgu Cymraeg fel disgyblaeth academaidd a hyrwyddo ysgolheictod cyfrwng Cymraeg.

Meddai Is -Ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B Davies, "Mae gan Brifysgol Abertawe enw da drwy'r byd am ymchwil a dysg ac yn enwedig ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Trwy Gwyddon>em>Le bydd modd i'n staff a'n myfyrwyr 么l-radd ddod 芒 gwyddoniaeth yn fyw mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol i'r miloedd o bobl ifanc fydd yn heidio i'r Maes - gan eu hannog i ddilyn gyrfa mewn meysydd o dwf strategol allweddol sy'n sail i dwf economaidd a ffyniant."

  • Yn y llun: Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru gydag Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B Davies a'r Dirprwy Is-Ganghellor, Yr Athro Iwan Davies.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.