Myfyriwr chweched dosbarth sydd fel rheol yn sgrifennu pethau hwyliog enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe.
Ond ar gyfer y gystadleuaeth trodd Ll欧r Titus o Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli ei olygon at ddyfodol erchyll a thywyll.
Fe'i sbardunwyd gan eiriau David Cameron a'i ofnau beth fyddai canlyniad gweledigaeth y Prif Weinidog.
Yn eu beirniadaeth cyfeiriodd y beirniaid, Mari Stevens ac M Wyn Thomas, at y darlun tywyll, ysgytwol, o Gymru yn 2034 a gyfl毛ir trwy ddyddiadur cymeriad o'r enw Orich.
Prif gymeriad ag arwyddoc芒d brawychus i'w enw.
"Mi wnaeth o ladd rhywun. Malu ei ben o'n racs, a'r s诺n ddaeth o'r pen oedd Orich ac mi ddaru fo ddewis hwnnw fatha enw," eglurodd Ll欧r.
Ond er nad yw Orich yr hyn fyddech yn ei alw yn berson neis dywedodd Ll欧r ei fod "yn neisiach na'r gyfundrefn" y mae'n byw dani.
Er iddo fod yn meddwl am y math yma o nofel "ers talwm" dywedodd mai'r hyn a ddywedodd David Cameron a'i taniodd i sgwennu.
"Mi wnaeth David Cameron ddatgan fod y gymdeithas amlethnig yn marw a bod eisiau inni greu rhyw un gymdeithas fawr ac yr oedd hynny yn fy nharo i braidd yn rhyfedd ac roeddwn i'n ein gweld ni yn gwyro i rhyw gyfeiriad peryg braidd a dyma ddechra sgwennu a dechra meddwl sut bydda hi," meddai.
Ond er bod ei ddarlun o gymdeithas yn un tywyll dywedodd nad yw'n berson cwbl besimistaidd ac nad yw yn anobeithio'n llwyr am y dyfodol.
""Realist," meddai wrth ddisgrifio ei hun. "Dydw i ddim yn rhy besimistaidd a dydw i ddim yn rhy optimistaidd chwaith a dweud y gwir wrthych chi o weld y stad ydan ni yno fo ar hyn o bryd."
Dywedodd iddo droi yn fwriadol at y difrifol ar gyfer y gystadleuaeth.
"Rydw i wedi arfer sgwennu pethau hwyliog ond roeddwn i'n meddwl y basa'n well imi droi i gyfeiriad arall ar gyfer y gystadleuaeth yma ac mi wnaeth hynny dalu'r ffordd yn y diwedd," meddai.
"Yr oeddwn i eisiau dangos dyfodol afiach ac yn meddwl mai'r ffordd orau i wneud hynny oedd gwneud y sgwennu felly," meddai.
Myfyriwr 18 oed yng Ngholeg Meirion Dwyfor ydi Ll欧r ac yn paratoi ar gyfer ei arholiadau safon gyda'r gobaith o gael dilyn cwrs Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor a maes o law wneud gyrfa o sgrifennu.
Yn gynharach yr wythnos hon yr oedd yn drydydd yng nghystadleuaeth y fedal ddrama.
,p>Wrth draddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan dywedodd Mari Stevens am y gwaith ar y thema Ffiniau,"Dyma ddyfodol sy'n afieithus o ddychmygus, ac eto'n frawychus o gredadwy.
"Yma, mae cymdeithas wedi mynd yn ysglyfaeth i gyfundrefn dotalitaraidd ac mae'r paranoia yn ddrych o dyndra ein hoes ofnus ni. Mae'r syniadaeth gras, y brawddegau swta a'r iaith ergydiol yn torri fel bwledi drwy'r gystadleuaeth . . .
"Llwydda i'n llusgo'n ddiseremoni dros y ffin i edrych o'r newydd ar ein ffordd ni o fyw. Dyma gyfanwaith herfeiddiol o berthnasol a llais newydd."
Straeon heddiw
Cysylltiadau
Dysgu
Syrcas Gerdd
Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.