Dau gariad ddaeth yn gyntaf ac yn ail yng nghystadleuaeth Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe, 2011.
Y mae Sophie Baggott a Daniel Nicol yn ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Caerdydd ac yn gwybod eu bod wedi cystadlu yn yr un gystadleuaeth.
"Digon teg," oedd ymateb Daniel i fuddugoliaeth Sophie yn dilyn y seremoni ar lwyfan yr Eisteddfod yn Abertawe.Dywedodd bod y ddau yn siarad Cymraeg a'i gilydd.
"Ac rydym yn tectsio hefyd," meddai.
A phan ofynnwyd i Sophie beth ddywedodd ei chariad pan y'i curodd i'r lle cyntaf atebodd, "Llongyfarchiadau".
Yn 18 oed yng Ngorffennaf magwyd Sophie yng Nghaerdydd i deulu o'r Brifddinas ac mae ei brawd a'i chwaer hefyd yn dysgu Cymraeg.
Yn astudio Saesneg, Cymraeg, Almaeneg a Hanes yn yr ysgol mae gan Sophie ddiddordeb arbennig mewn ieithoedd a dywedodd yr hoffai hefyd ddysgu Sbaeneg oherwydd ei diddordeb yn Sbaen.
Dywedodd i ymgeisio am y fedal oherwydd ei hoffter o sgrifennu - ac o siarad. "Rydw i'n siaradus," meddai.
>Ychwanegodd yr hoffai yrfa yn ymwneud 芒 sgrifennu, yn newyddiadurwr neu awdur efallai."Y llynedd yr oeddwn yn falch iawn o ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion am ysgrifennu rhyddiaith i ddysgwyr ac mae fy ngwersi Cymraeg wedi cynnig profiadau gwych i mi ac rydw i'n ddiolchgar dros ben am hynny," meddai.
Ar gyfer y gystadleuaeth a feirniadwyd gan Elin Meek a Nia Parry cyflwynodd Sophie lythyrau, ysgrif ac erthygl.
"Roedd y tri llythyr dyfeisgar yn dangos ychydig o hynt a helynt y Gymraeg dros y ganrif a hanner diwethaf. Rhyddid gwleidyddol oedd tetun yr erthygl hynod gyfoes oedd yn dangos 么l aeddfedrwydd mawr. Yn yr ysgrif, roedd dau linyn yn cydblethu'n hyfryd, sef hanes pyllau glo Cymru a hanes glowyr Chile," meddai'r beirniaid.
"Rydw i wedi mwynhau bywyd yn y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Caerdydd lle ces i gyfle arbennig i ddysgu Cymraeg. Rydw i'n hoff iawn o ieithoedd a'r cyfleoedd a gynigir ganddynt. Yn arbennig rydw i wrth fy modd yn teithio, o'r teithiau blynyddol i Langrannog i'r mis a dreuliais yn crwydro o amgylch Gwlad Thai gyda'r ysgol," meddai Sophie.
Yn drydydd yn y gystadleuaeth yr oedd Angharad Thomas o Ysgol Howell, Caerdydd.