Un o brif gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn yw'r un am Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
Mae'r ysgoloriaeth werthfawr hon yn cael ei dyfarnu i'r gorau o blith enillwyr nifer o gystadlaethau llwyfan unigol yn yr Eisteddfod yn amrywio o ddawnsio i ganu.
Mae enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi - yn dilyn cyfres o ddosbarthiadau meistr - rai misoedd wedi'r Eisteddfod ei hun.
Enillydd 2010
Yr enillydd yn dilyn Eisteddfod 2010 yn Llanerchaeron, Ceredigion, oedd Elgan Llyr Thomas a dderbyniodd ei wobr mewn cyngerdd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid fis Hydref.
Derbyniodd 拢4,000 a fydd yn eu defnyddio ar gyfer costau addysg yn y coleg a dilyn cwrs 么l radd.
Elgan, o Graig y Don, Llandudno, oedd yn fuddugol ar y gystadleuaeth unawd o sioe gerdd yn Llanerchaeron a chipiodd yr ysgoloriaeth gyda pherfformiad swynol o Y Bugail gan Wilfred Jones, Anfonaf Angel gan Robat Arwyn a Miwsig mwyn y nos gan Andrew Lloyd Webber.
Cafodd ddosbarth meistr gan Rhydian Roberts.
Yn enedigol o Landudno, mae Elgan yn fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion lle mae wedi ennill gwobr 'Elsie Thurston' i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf.
Bu hefyd yn cynrychioli'r coleg yng nghystadleuaeth 'Kathleen Ferrier Bursary Award' fis Hydref 2009.
Hwn oedd y tro cyntaf iddo gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel ac wedi iddo raddio, mae a'i fryd ar ddilyn cwrs 么l-radd yn y Guild Hall yn Llundain er mwyn llwyddo fel Tenor proffesiynol.
"Ennill yr Ysgoloriaeth hon yw uchafbwynt fy ngyrfa hyd yma. Roedd cymryd rhan yn brofiad bythgofiadwy a dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gydweithio 芒 Rhydian Roberts oedd wedi bod yn fy mentora."
Cystadleuwyr eraill
Cystadleuwyr eraill yr Ysgoloriaeth oedd:
- Eirlys Myfanwy Davies o Lanelli. Enillydd yr Unawd 19 - 25 oed
- Glesni Fflur o'r Bala. Enillydd yr Unawd Cerdd Dant 19 - 25 oed
- Jocelyn Freeman o D欧 Ddewi. Enillydd yr Unawd Offerynnol 19 - 25 oed
- Teleri Mair Williams o Lynfaes, Ynys M么n. Enillydd y Cyflwyniad Theatrig Unigol 19 - 25 oed
- Elen Gwenllian Clwyd o Gaernarfon. Enillydd y Llefaru Unigol 19 - 25 oed
- Ceirios Haf Evans o Lanarth. Enillydd yr Unawd Alaw Werin 19 - 25 oed
- Cerian Phillips o Gynwyl Elfed. Enillydd y Ddawns Werin 15 - 25 oed
Y beirniaid
Beirniaid yr Ysgoloriaeth oedd;Gwawr Owen, Cerdd, Eirian Owen, Cerdd, Cefin Roberts, Theatr, Cliff Jones, Dawns, Elin Williams, Llefaru, Llio Penri, Cerdd Dant ac Alaw Werin, Tudur Dylan, Cadeirydd y Panel Beirniaid.
Enillwyr y gorffennol
Enillwyr yr Ysgoloriaeth yn y gorffennol oedd:
- 2009 Bae Caerdydd - Catrin Angharad Roberts
- 2008 Conwy - Rhian Lois Evans
- 2007 Sir G芒r - Manon Wyn Williams
- 2006 Sir Ddinbych - Rhys Taylor
- 2005 Canolfan Mileniwm Cymru - Lowri Walton
- 2004 Ynys M么n - Rakhi Singh
- 2003 Tawe Nedd ac Afan - Aled Pedrig
- 2002 Caerdydd - Rhian Mair Lewis 2001 Toriad oherwydd Clwy'r Traed a'r Genau
- 2000 Bro Conwy - Fflur Wyn
- 1999 Llanbedr Pont Steffan - Mirain Haf
Straeon heddiw
- - Cyrraedd maes y Steddfod
- Alex yn 么l ar lwyfan yr Urdd
- Coron gyntaf Mari i'r Urdd
- Cyril y Swan yn cefnogi
- Eisteddfod yr Urdd 2002 - 2011
- Eisteddfodau 2002 - 2010
- Ennill Tlws John a Ceridwen Huighes
- Gwahoddiad i Joio da'r Jacs
- GwyddonLe - prifysgol yn cefnogi
- Llwyddiant G锚m yr Urdd ar y Liberty
- Y Goron a'r Gadair
- Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2010