91热爆

Medal John a Cheridwen Hughes

Dennis ac Enid Davies

02 Mehefin 2011

Dau a fu'n cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn eisteddfodau, a syrthiodd mewn cariad a phriodi yw enillwyr Medal John a Ceridwen Hughes eleni.

Enwebwyd Dennis ac enid Davies gan bobl ifainc yn ardal Llanrwst lle mae'r ddau yn arweinwyr aelwyd.

Talodd y ddau deyrnged uchel i'r Urdd gydag Enid yn datgelu mai drwy'r Urdd yn cystadlu mewn eisteddfodau y gwnaeth y ddau gyfarfod gyntaf a dod i adnabod ei gilydd.

Yr oeddem yn adrodd yn erbyn ein gilydd," cadarnhaodd Dennis - gan ddatgelu mai ef fyddai'n ennill gan amlaf!

Gyda'r seremoni i gyflwyno'r fedal iddynt am chwarter i saith ar lwyfan y brifwyl siaradodd y ddau mewn cynhadledd i'r wasg ar y maes fore Iau.

"Yr ydw i'n bersonol yn credu'n gryf yn yr Urdd," meddai dennis. " oherwydd cymaint o gyfleoedd mae'r Urdd yn ei roi i blant a phobl ifainc. Yr ydw i'n bersonol wedi ennill yn Eisteddfod yr urdd ond nid yn unig y y Steddfod mae'n rhoi cyfle ond mewn chwaraeon a gwersylloedd, teithiau theatr ieuenctid ac yn y blaen ac mi fyddwn ni yn trio annog yr ieuenctid i gymryd rhan yn y gwahanol weithgareddau," meddai.

"Mae'n bwysig," ychwanegodd , "dangos y gwahanol bethau mae yr Urdd yn ei roi."

Dywedodd hefyd iddo weld cynnydd yn y diddordeb yn yr Urdd dros y blynyddoedd wrth i'r gwahanol weithgareddau eangu.

Ond yr oedd yn siomedig meddai gydag un peth nad oes gornestau chwaraeon cenedlaethol bellach ond yn ranbarthol a thaleithiol.

"Dywedodd iddo ef elwa'n fawr pan yn ifanc ar deithiau i gemau cenedlaethol yn Aberystwyth.

Soniodd Enid hithau am "oriau o bleser a hwyl" a gafwyd yng nghwmni eu hardal dros y blynyddoedd.

Yn 1974 y sefydlodd Dennis Aelwyd Bro Cernyw ac ef oedd yr arweinydd cyntaf ac yn ystod y flwyddyn honno y priododd ef ag Enid hefyd gan symud o'r ardal ac ers y saithdegau hyfforddi pobl ifainc Dyffryn Conwy.

Sefydlwyd Adran bentref Carmel yn 1986 gyda'r ddau yn cydweithio i redeg honno yn ogystal ag arwain aelwyd Llanrwst.

Wrth gyfeirio at eu cyfraniad dywedodd yr Urdd mewn datganiad:

"Dros y blynyddoedd mae cannoedd o blant a ieuenctid wedi elwa o ddoniau ac ymroddiad Dennis ac enid a fyddai'n eu hyfforddi, yn ogystal 芒'u cario o amgylch Cymru i gystadlu mewn gwahanol chwaraeon ac eisteddfodau.

Ymhlith y rhai a dalodd deyrnged iddyn nhw roedd Ffion Clwyd Edwards, cyn aelod o Bentref Carmel ac Aelwyd Llanrwst, a'u canmolodd am eangu eu diddordebau "mewn ardal wledig lle roedd gwasanaethau a gweithgareddau diwylliannol yn brin ar ein stepan drws."


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Byddwn yn cyhoeddi lluniau o faes yr Eisteddfod gydol yr wythnos

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.