Wedi pum pyncjar, tair codwm ac un cadwyn newydd cyrhaeddodd criw o bobl ifainc o ardal Dinbych ac Abertawe faes yr Eisteddfod am 1200 ddydd Iau.
Yr oedden nhw wedi teithio'r 200 milltir fel rhan o gynllun Llwybrau i'r Brig yr Urdd.
Ran o'r ffordd defnyddiwyd L么n Las Cymru ond roedd llawer o'r ffordd yn gofyn am feicio mynydd.
Cychwynnodd y criw o ddeuddeg o harbwr Conwy am ddeg bore Llun gan deithio trwy Drawsfynydd, Machynlleth, dros Pumlymon, i lawr i Raeadr Gwy ac wedyn trwy goedwig Nant yr Hwch i Lanymddyfri cyn dilyn y cymal olaf i faes yr Eisteddfod lle'r oedd criw i'w croesawu.
Ar y daith yr oedd pump o fechgyn blwyddyn 12 Ysgol Uwchradd Prestatyn, tri bachgen o Aelwyd Rhuthun a phedwar o flwdyddyn 11 a 12 Ysgol Gyfun Tawe, Abertawe.
Cynllun yw Llwybrau'r Brig i wella sgiliau a chodi dyheadau pobl ifainc trwy gyfrwng y Gymraeg.
Straeon heddiw
Cysylltiadau
Dysgu
Syrcas Gerdd
Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.