Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod ddydd Llun yw Islwyn Evans, Cyfarwyddwr Ysgol Gerdd Ceredigion.
Yn ystod ei gyfnod yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd, derbyniodd wobr Arweinydd Corau Ieuenctid y Sefydliad Prydeinig ynghyd ag Ysgoloriaeth Winston Churchill i astudio corau plant yn Sweden a Hwngari.
Yn ogystal a bod yn gyfarwyddwr Ysgol Gerdd Ceredigion mae'n gyfarwyddwr C么r Cywair hefyd a enillodd y brif wobr yng nghystadleuaeth C么r Cymru 2007.
Daeth Islwyn Evans i frig y gystadleuaeth unwaith yn rhagor yn 2009 gydag Ysgol Gerdd Ceredigion.
Derbyniodd sawl llwyddiant unigol ar lwyfan yr Eisteddfod yn ei arddegau ac fe dreuliodd sawl wythnos Sulgwyn yn Eisteddfod yr Urdd yn ystod ei gyfnod fel athro Cerdd Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul.
Dywedodd bod derbyn gwahoddiad i fod yn Llywydd y Dydd ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010 yn anrhydedd o'r mwyaf ac mae'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd gan yr 诺yl i'w chynnig.