Mae un o lywyddion anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ceredigion wedi erfyn ar Gyngor Sir Ceredigion i "bwyllo" ac i ail ystyried cyn gweithredu unrhyw gynlluniau ar gyfer addysg yn ardal Llandysul.
Yr oedd Carol Davies yn siarad mewn cyfarfod gyda'r wasg ddydd Sul yr Eisteddfod pan ddywedodd mai dim ond un "cwmwl du" sydd uwchben yr Eisteddfod hon iddi hi ac ymddiheurodd am godi'r pwnc.
"Rhaid imi ddweud hyn achos ma fe'n ofid calon imi. Pan symudon ni lawr i Ddyffryn Teifi fe gymerodd hi 12 mlynedd inni i sefydlu ysgol uwchradd ddwyieithog ac fe fu'r frwydr yn un galed, galed," meddai.
"Dwi'n cofio'r cyfarfod cyntaf gawsom ni yng Nghastell-newydd-Emlyn - pedwar oedd yno ac roedd e'n dorcalonnus ond mae Ysgol Dyffryn Teifi erbyn hyn yn enwog drwy'r wlad a'r plant yn cael cyfle oes i gymryd rhan yn y gwahanol weithgareddau.
"Ond mae na gwmwl du uwch ein pennau ni yng nghylch Llandysul a dwi yn erfyn ar y cyngor sir, 'Wnewch chi pl卯s, pl卯s, pl卯s, pl卯s, stopio a pheidio brasgamu mlaen at rywbeth nad ydym ni'n barod ar ei gyfer'," meddai.
"Mae'n ofid calon gen i," meddai am y cynlluniau sydd ar y gweill gan ychwanegu:
"Dwi ddim yn gwybod beth yw'r ateb a beth yw'r ffordd ymlaen ond un peth dwi yn ofyn i Gyngor Sir Ceredigion yw, 'Plis, wnewch chi bwyllo ac ystyried beth yw oblygiadau y newidiadau yma. Beth yw'r effaith yn mynd i fod ar bentrefi cylch Llandysul'.
"Mae'n ddrwg gen i orfod dweud hyn ond dwi'n teimlo bod raid imi ddweud e. Dyna'r unig gwmwl sy uwch ein pennau ni yr wythnos hon," meddai am gynlluniau i adrefnu addysg a chreu ysgol newydd 3 - 19 oed.
Bu Carol Davies yn brifathrawes Ysgol Gynradd Capel Cynon am bron i chwarter canrif cyn ymddeol ac mae'n adnabyddus yn yr ardal am ei holl weithgarwch yngl欧n 芒'r Urdd gyda'i diweddar 诺r, Ainsleigh.
Hwy sefydlodd Aelwyd yr Urdd Orllwyn Teifi yn y Saithdegau a u hefyd yn beirniadu mewn eisteddfodau cylch, rhanbarth a chenedlaethol.