Un o ddigwyddiadau mawr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd y llynedd oedd ymweliad Mickey Mouse.
Yr oedd yn ddigwyddiad i nodi cydweiithio newydd rhwng mudiad Mr Urdd a chreadigaeth Disney.
Flwyddyn yn ddiweddarach mae'r Urdd yn cyhoeddi i'r bartneriaeth honno fod "yn llwyddiant ysgubol" yn dilyn y Penwythnos Cymreig yn Disneyland Paris ym fis Mawrth 2010.
Ac ar drothwy Eisteddfod Llanerchaeron cyhoeddodd yr Urdd y bydd y bartneriaeth yn parhau.
"Rhydd hyn ragor o gyfle i enillwyr yr Eisteddfod i berfformio ar lwyfan y Parc ar gyrion Paris dros y penwythnos Cymreig yn 2011, rhwng Mawrth 4 a 6 ," meddai'r Urdd mewn datganiad.
Y cystadlaethau fydd yn galluogi buddugwyr i fynd ymlaen i Disneyland Paris yw:
• Unawd Blwyddyn 2 ac iau • Unawd Cerdd dant Blwyddyn 3 a 4 • Unawd Blwyddyn 5 a 6 • Unawd Bechgyn Blwyddyn 7, 8 a 9 Unawd o Sioe Gerdd Blwyddyn 10 ac o dan 19
Dywedodd Sophie Rudge, 14 o Aberystwyth - un o bump o enillwyr Eisteddfod Bae Caerdydd y llynedd a fu'n canu yn Disneyland Paris:
"Roedd yn anhygoel cael canu yn Disneyland Paris. Roedd yn brofiad gwych - a dwi'n methu credu ei fod wedi digwydd i mi."
Croesawodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn, a Peter Welch, Is-lywydd Disney Destinations Rhyngwladol barhad y bartneriaeth.