91热爆

Maes gwahanol

Llanerchaeron

Ers sawl blwyddyn mae'r Urdd wedi bod yn barod i arbrofi gyda meysydd ei heisteddfodau cenedlaethol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnal yr Eisteddfod ar ddau faes sioeau amaethyddol - ym M么n ac yng Nghaerfyrddin.

Bu'r Eisteddfod yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ddwywaith hefyd.

Ac eleni wele agor cwys newydd arall trwy gynnal Prifwyl 2010 y mudiad ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron ger Aberaeron.

Dewiswyd y safle trawiadol hwn allan o ddeg leoliad oedd dan ystyriaeth yng Ngheredigion.

Mae'n addo bod yn lleoliad a fydd wrth fodd Eisteddfodwyr.

"Mae'r safle a'r Plas yn hyfryd ac rwy'n argyhoeddedig y bydd y lleoliad godidog hwn yn cyfrannu yn fawr at lwyddiant yr 诺yl," meddai Aled Si么n, Cyfarwyddwyr yr Eisteddfod.

Er mai hwn yw pumed ymweliad Prifwyl yr Urdd 芒 Cheredigion dyma'r ymweliad cyntaf ag ardal Aberaeron.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod ddwywaith o'r blaen yn Aberystwyth a hefyd dwywaith yn Llanbedr Pont Steffan, y tro diwethaf yn 1999.

Wrth groesawu penderfyniad yr Urdd dywedodd Iwan Huws, Cyfarwyddwr Cymru'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei fod e'n ffyddiog y bydd Eisteddfod 2010 yn un "fythgofiadwy".

I gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol mae'r Urdd angen dros 70 erw o dir i gyd gyda phafiliwn 1,800 sedd yn cael ei godi ar faes 20 erw. Hefyd bydd angen maes carafannau a meysydd parcio ar gyfer y 100,000 o ymwelwyr a ddisgwylir.

Wrth ganu clodydd y safle dywedodd Deian Creunant, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ceredigion:

"Gyda safle ardderchog Llanerchaeron yn sylfaen i'r cyfan, fe fydd Eisteddfod 2010 yn llwyddiant ysgubol ac yn gyfle arbennig i blant a phobl ifanc Ceredigion."


91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.