Hanes y plasdy rhyfeddol ger Aberaeron gan Heledd Jones, Swyddog Cyfathrebu Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
"Lle ymlaciol, anffurfiol, sy'n caniat谩u i ni gael cipolwg ar fywyd y gweision yn ogystal 芒'r uchelwyr. Pryd gawn ni symud i mewn?"
Mae'r sylw gan deulu yn llyfr ymwelwyr yr atyniad hudolus sydd heb fod nepell o dref amryliw Aberaeron yn cyfleu i'r dim yr argraff mae Llanerchaeron yn ei wneud ar ymwelwyr.
Tydi'n fawr o syndod bod y rhan fwyaf yn dweud y buasen nhw'n medru setlo'n ddigon hapus yn y t欧 cartrefol.
Heddiw, mae'r ystad sy'n dyddio'n 么l i'r ddeunawfed ganrif yn cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae'n llawn bwrlwm tawel.
Mae'r t欧 a'i 600 erw'n cynnwys nodweddion o bob math:
Pensaern茂aeth, hanes, gerddi wedi eu tirlunio, cynnyrch organig a bridiau prin ar y fferm gartref, yn ogystal a rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau yn amrywio o ddiwrnod bragu i ddyddiau crefft i'r teulu, teithiau cerdded, arddangosiadau coginio a ffair Nadolig boblogaidd.
O adfail i d欧 llawn bywyd
Ond stori go wahanol oedd hi ugain mlynedd yn 么l pan ddaeth ystad bonedd Cymreig i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ac yntau mewn cyflwr dychrynllyd roedd y cawr ar fin deffro am y tro cyntaf ers canrif ac yn dilyn buddsoddiad o 拢4 miliwn roedd y t欧 wedi ei adfer ac yn barod i groesawu ymwelwyr yn 2002.
"Bywiogrwydd y st芒d yw'r peth mwyaf trawiadol," meddai Janice Thomas, sy'n gweithio yn.
"Mae wedi newid o fod yn adfail i fod yn llawn bywyd."
Er 2002, bu t卯m lleol o grefftwyr yn adnewyddu pob rhan o'r eiddo - o'r stablau a'r beudy i'r gerddi mewn muriau a'r llyn ac erbyn hyn mae pob ymwelydd yn cael ymdeimlad o'r eiddo cyflawn.
Gadawyd y st芒d i'r Ymddiriedolaeth gan Mr J P Ponsonby Lewes gyda Llanerchaeron wedi bod yn gartref i'r un teulu ers deg cenhedlaeth.
Dros y canrifoedd ychwanegodd pob cenhedlaeth at ei gymeriad.
Yn 1634 prynodd Llewelyn Parry y 500 erw o dir, yn cynnwys t欧 a'r ardd, am 拢140 ac yna yn 1793 comisiynwyd y pensaer enwog John Nash i ailgynllunio ac ehangu Llanerchaeron.
Dyma pryd adeiladwyd y t欧 a welir heddiw.
Yr unig un yng Nghymru
Mae'n rhyfeddol bod y plasdy wedi goroesi oherwydd mae'r rhan fwyaf o weithiau eraill Nash yng Nghymru wedi eu dinistrio neu eu newid.
Pan ddychwelodd Nash i Lundain daeth yn bensaer y Brenin Si么r IV a chaiff ei gydnabod yn un o benseiri mawr ei gyfnod. Ef gynlluniodd Bafiliwn Brighton, Parc Regent a Stryd Regent yn ogystal 芒 Phalas Buckingham.
Mae ystafelloedd y t欧 - sy'n ail-greu sut y byddai wedi edrych ar droad yr ugeinfed ganrif - yn wledd i'r llygad.
Ar gyfer eu hadfer bu'n rhaid ail-greu'r papur wal o sampl bach gwreiddiol gafodd ei ddarganfod ar 么l crafu haenau o baent.
Cewch hefyd gipolwg ar yr ystafelloedd lle byddai'r gweision yn byw - ystafelloedd gwely, y selerydd, coridor y clychau, pantri'r bwtler, y gegin gyda'i dresel fawr i gadw'r holl offer coginio, y bwtri a'r ystafell baratoi.
Pum mil o eitemau
Mae'r t欧 hefyd yn gartref i gasgliad arbennig o dros bum mil o eitemau sy'n amrywio o gelfi ac eitemau cyffredin sy'n adlewyrchu'r dyddiau fu.
Fe'u cymynwyd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan Pamela Ward, cymdeithaswraig oludog o Lundain.
Wedi sawl blwyddyn yn teithio, ddychwelodd Miss Ward i Brydain ac agor siop hen bethau yn Knightsbridge, Llundain.
Wedi ei lleoli y tu 么l i Harrods, roedd y siop yn anarferol gan ei bod yn ymddangos yn union fel ystafell ffrynt mewn t欧. Bellach, mae pob eitem a ddaeth o'i chartref yn Llundain yn cael eu cadw yn Llanerchaeron a dangosir nifer sylweddol o'r casgliad - gan cynnwys ei labeli gwreiddiol - mewn dwy ystafell yn y t欧.
O gerfiadau o'r ddeunawfed ganrif i waith gwydr - yn cynnwys amrywiaeth o boteli persawr cywrain, gemwaith hardd, gwaith arian ac amrywiaeth o eitemau wedi'u cerfio o ifori, offer coblo ac offer toi, i dynwyr corcyn a chyllyll a ffyrc, ffyn, rholbrenni a hyd yn oed briciwr myffin, mae'r darnau o ddiddordeb nid yn unig heddiw ond fe fyddant yn parhau i swyno cenedlaethau'r dyfodol hefyd.
Yng nghefn y t欧 gwelir y ceginau a'r ystafelloedd gwasanaethu. Mae yna laethdy, bragdy a'r golchdy; y t欧 halltu, ystafell gaws a phopty - y cyfan - gyda'r ardd lysiau a'r fferm - yn galluogi Llanerchaeron i ddiwallu ei holl anghenion yn y ddeunawfed ganrif ac yn sicrhau ei fod yn hollol hunangynhaliol.
Heddiw, gall ymwelwyr brynu ffrwythau, llysiau a pherlysiau organig ffres a dyfwyd yn yr ardd furiog ac sy'n cael eu hel yn ddyddiol.
Mae'r holl elw'n cael ei fuddsoddi yn yr ardd sydd hefyd yn agiored i'r cyhoedd.
Os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth yn y gegin, gwnewch yn si诺r eich bod yn gweld un o sesiynau coginio Gareth Richards.
Y fferm
Mae'r fferm 100 hectar (247 acer) hefyd yn rhan bwysig o fywyd Llanerchaeron.
Amaethir gwartheg Duon Cymreig, defaid Llanwenog a moch Cymreig yn organig a gwerthir y cynnyrch - selsig, cig mochyn, oen a chig eidion sydd wedi'u magu ar y fferm yn y ganolfan groeso.
Os am dalp o hiraeth amaethyddol, mae arddangosfa gynhwysfawr Geler Jones o fywyd gwledig a pheiriannau fferm gorllewin Cymru yn agored ar adegau trwy'r flwyddyn.
Cynigir teithiau tywys i grwpiau yn ystod y tymor ac mae'r eiddo hefyd yn agored yn hwyr ar nosweithiau penodedig ym mis Mehefin a Gorffennaf. Cyfle newydd i groesawu ymwelwyr i weld yr eiddo mewn golau gwahanol - yn llythrennol!
Straeon heddiw
- Arbediad i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Catrin a Tommi yn uno gyda thelyn a llif!
- Darganfod olion Canol Oesol
- Dathlu T Llew
- Deng niwrnod o ddathlu a chystadlu
- Doniau lleol Cyngerdd Agoriadol
- Hanes Llanercherchaeron
- Maes gwahanol
- Sioe Edward H
- Trwydded alcohol i'r Maes
- Tr锚n Bach i rai heb bwff
- T么n ff么n Ceredigion 2010