Go brin y gellid meddwl am gynnal Eisteddfod yr Urdd yng Ngheredigion heb gofio cyfraniad un o gymwynaswyr mwyaf y sir, y nofelydd a'r bardd, T Llew Jones.
Bydd sioe gerdd arbennig ym mhafiliwn yr Eisteddfod y nos Fawrth a'r nos Fercher, Mehefin 1 a 2, gan blant ysgolion cynradd Ceredigion.
Heb amheuaeth mae hon yn addo bod yn un o sioe mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod cymaint yr edmygedd o T Llew Jones fel awdur.
Bu T Llew farw ddechrau 2009 dros ei 90 oed. Am 35 mlynedd bu'n athro mewn ysgolion cynradd yng Ngheredigion gan sgrifennu degau o straeon a nofelau i blant ac oedolion.
Comisiynwyd y sioe gerdd yn arbennig ar gyfer yr 诺yl gyda Dwynwen Lloyd Evans a'i th卯m o Theatr Felinfach yn paratoi'r plant.
"Mae dathlu gwaith un o'n hawduron lleol, un oedd mor dalentog ac yn ffigwr poblogaidd drwy'r wlad wedi bod yn ddyhead o'r cychwyn," meddai Dwynwen.
"Wedi marwolaeth T Llew Jones roedd yna ymdeimlad cryf fod angen creu rhywbeth i anrhydeddu ei waith a'i gyfraniad."
Straeon heddiw
- Arbediad i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Catrin a Tommi yn uno gyda thelyn a llif!
- Darganfod olion Canol Oesol
- Dathlu T Llew
- Deng niwrnod o ddathlu a chystadlu
- Doniau lleol Cyngerdd Agoriadol
- Hanes Llanercherchaeron
- Maes gwahanol
- Sioe Edward H
- Trwydded alcohol i'r Maes
- Tr锚n Bach i rai heb bwff
- T么n ff么n Ceredigion 2010