Her gyntaf Bardd plant newydd Cymru fydd cyfansoddi cerdd - gan ddefnyddio geiriau sydd wedi eu peintio gan blant ar wal arbennig ar faes yr Eisteddfod.
Ond nid unrhyw hen wal yw hon ond un y casglwyd y geiriau arni hi gan yr arlunydd - o Rydaman yn wreiddiol ond yn awr yn byw ym Mhontrhydfendigaid.
Mae hi yno ger y wal ym mhabell y dysgwyr - Cwtsh Cymraeg - gydag amrywiaethy o baent a brwsus yn gwahodd plant i beintio unrhyw air fynnan nhw ar y wal.
"Wedyn bydd y Bardd Plant newydd yn llunio cerdd gan ddefnyddio cymaint o'r geiriau a phosibl," meddai Gwenll茂an a ychwanegodd i'r syniad ddod yn wreiddiol oddi wrthy Bwyllgor Ll锚n yr Eisteddfod."
Bydd y wal yn cau, fel petai, heddiw. Drosodd wedyn at Dewi Pws - sydd eisoes yn enwog drwy Gymru am yrru pobl i fyny'r wal!
Straeon heddiw
Cysylltiadau
Dysgu
Syrcas Gerdd
Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.