Mae bardd cadeiriol Eisteddfod yr Urdd 2010 wedi ennill cadair sy'n nodedig am y ffaith fod y diweddar Brifardd Dic Jones yn symbolaidd blygu ei ben mewn parch iddo.
Ar gefn y gadair a wnaed gan Glan Evans gwelir trwy ffenest storws dywysen a'i phen i lawr.
"Dic oedd eisiau y dywysen yna a'i phen i lawr fel arwydd o'i barch o tuag at y bobl ifainc sy'n mynd ati i farddoni," meddai Tudur Dylan Jones, cadeirydd pwyllgor eisteddfodau yr Urdd, fore Iau.
"Meddyliwch, ennill cadair felna edo y dywysen yna yn symboleiddio Dic yn plygu ei ben i ddawn ein ieuenctid ni heddiw," ychwanegodd.
Rhodd gan deulu'r diweddar Dic Jones, a fu farw yn ystod ei dymor yn Archdderwydd Cymru, yw'r gadair a bu ganddo ef ran yn ei chynllunio gyda'i ffrind mawr, y saer, Glan Rees.
"Roedd Dic yn bendant iawn mai cadair syml, fodern ddylai hon fod," meddai Glan sy'n byw yn Nhreftraeth ac yn gyn brifathro Ysgol Bro Ingli.
Ond ychwanegodd bod delweddau cryf a phendant iawn ynddi hefyd gan gynnwys y 'ffenestr' o wydr lliw yn edrych i'r dyfodol.
Gwelir hefyd farcud coch.
Cyfeiriodd yntau hefyd at ddelwedd y dywysen blygedig:
"Roedd yn aml yn dweud wrtha'i gymaint o barch yr oedd ganddo at y beirdd ifanc a'r hyn y maent yn ei gyflawni," meddai.
Ar gefn y gadair, mae cwpled o eiddo Dic o'i gerdd, 'Y Gamp'.
"Mae'r gadair wedi ei gwneud o barch a chariad at Dic," meddai Jean, gweddw Dic Jones.
"Roedden ni'n ffodus fod Glan wedi dod i'n gweld pan ddaeth e. Roedd Dic yn ei bethe ac fe gawsom ni drafod y steil a'r delweddau a dwi'n gwybod y bydde Dic wrth ei fodd efo'r gadair orffenedig."
Ychwanegodd, y byddai'r gadair wedi golygu llawer i'w g诺r a enillodd bump o gadeiriau'r Urdd i gyd.
"Bydde fe'n browd iawn. Erth ei fodd," meddai. Ac ychwanegodd Rhian, ei merch, pe na byddai'r gadair wedi ei hennill na fyddai anhawster cael cartref iddi o fewn y teulu.
Straeon heddiw
Cysylltiadau
Dysgu
Syrcas Gerdd
Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.