Saesneg oedd iaith cartref Jennifer Maloney pan sefydlodd hi aelwyd o'r Urdd yn Llandybie yn y Saithdegau.
Heddiw mae ar lwyfan Prifwyl yr Urdd yn derbyn Tlws blynyddol John a Ceridwen Hughes oherwydd ei "chyfraniad sylweddol" yn y Gymraeg i ieuenctid Cymru..Noddir y tlws gan Gerallt a Dewi Hughes er cof am eu diweddar rieni a oedd yn flaengar iawn ym maes datblygiad ieuenctid.
Enwebwyd Jennifer Maloney gan aelodau a rhieni Adran Penrhyd a Chyngor Tref Rhydaman yn arwydd o'u diolchgarwch am lafur diflino a brwdfrydedd Jennifer yn arwain yr Adran dros 34 o flynyddoedd.
Ers ffurfio'r Adran n么l yn 1976, elwodd cannoedd o blant ar ddoniau Jennifer ym maes dawnsio gwerin, canu, llefaru, clocsio ac wrth gymryd rhan mewn caneuon actol.
Bu hi ei hun yn cystadlu yn yr Urdd ers yn chwech oed ac mae ganddi dros dri chant o gwpanau a degau o darianau a medalau yn ei chartref yn Llandybie.
Dywedodd iddi gychwyn yr Adran am mai Saesneg oedd iaith ei chartref n么l yn 1976 a hithau am i'w phlant hi a phlant eraill yr ardal gael y cyfle i gymysgu yn Gymraeg.
Y noson y cafodd wybod ym mis Ebrill iddi ennill y Tlws roedd dros 300 o bobl wedi dod yno i roi sypreis iddi.
: "Fe ges i gymaint o sioc pan ffeindies i mas mod i wedi ennill. Roeddwn i wedi bod yn peintio'r t欧 y diwrnod hwnnw ac roedd paent yn dal i fod yn fy ngwallt!" meddai.
"Pan gerddes i mewn i'r stafell a gweld criw yr adran, yr aelwyd, rhieni a chriw yr Urdd yno ro'n i methu credu. Fe es i yn dawel iawn, ac mae hynny yn hollol anarferol i mi!
"Yr hyn sydd wedi fy nghadw i fynd ar hyd yr holl flynyddoedd yw gweld y plant yn mwynhau. Dwi wrth fy modd yn cael rhoi rhywbeth yn 么l i'r Urdd gan fy mod i wedi elwa cymaint o'r mudiad ar hyd y blynyddoedd."
Straeon heddiw
Cysylltiadau
Dysgu
Syrcas Gerdd
Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.