Ebostiwch Ffoniwch: (00 44) 1248 374991 Sgrifennwch: Ar Dy Feic, Bryn Meirion, Bangor LL 57 2BY
Chwilio am bobol Y bobol nid y lleoedd sy'n mynd a bryd Hywel Gwynfryn pan yw'n teithio'r byd. A chyda hynny mewn golwg mae Hywel yn chwilio'n awr am siaradwyr Cymraeg diddorol ar hyd a lled y byd i'w holi mewn ail gyfres o'r rhaglenni teledu Cymraeg difyr, Ar Dy Feic. Yn ystod y gyfres gyntaf cyfarfu Hywel Gymry yng Ngwlad Groeg, Sbaen, Yr Eidal, Dubai ac, yn nes adref, Ogledd Iwerddon. Yn awr mae'n gofyn am help darllenwyr 91热爆 Cymru'r Byd i ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg eraill sy'n byw dramor er mwyn eu cyflwyno i wylwyr teledu yng Nghymru. Anfonwch awgrymiadau - neu hyd ynj oed gynnig eich hun! Yn barod y mae Hywel yn ystyried ymweld â Kenya a'r Aifft ac nid yw'n gyfrinach mai gwlad y byddai'n gwirioni ymweld â hi a chyfarfod ei phobl yw Siapan. Pobol nid tirlun Ac yn y bobl y bydd ei ddiddordeb yn hytrach na golygfeydd godidog: "Pan oeddwn i'n hogyn ifanc 'dwi'n cofio gweld ffilm Dirk Bogarde yn yr Arcadia, Llangefni, The Singer, not the Song. A dyna 'da ni eisiau'i wneud yn y gyfres yma, canolbwyntio ar y canwr, nid y gân - y bobol nid y wlad. Nid Wish you were here ond Why are you here?
A'r un amrwyiaeth o bobol ag sy'n gwneud gwlad yn ddiddorol sy'n mynd i wneud rhaglenni yn ddifyr hefyd ac yn y gyfres gyntaf fe gafwyd yr amrywiaeth liwgar honno o bobl gyda gwaith a diddordebau mor wahanaol a gwerthu ffrwythau neu wneud astudiaeth hanesyddo - trin a magu ceffylau a ffotograffiaeth broffesiynol. "Yn aml iawn gall yr hyn sy'n ymddangos yn gyffredin i'r sawl sy'n ei wneud bob dydd fod yn hynod o anghyffredin i rai y tu allan i'r maes neu sy'n byw yma yng Nghymru," meddai Mair Verrall, ymchwilydd y gyfres. "Felly, apelio yr ydym am i gynulleidfa 91热爆 Cymru'r Byd dynnu ein sylw at siaradwyr Cymraeg sy'n gwneud pethau braidd yn annisgwyl ar hyd a lled y byd - neu hyd yn oed gynnig eu hunain yn gwmni i Hywel pan fydd yn chwilio am wal i roi ei feic yn ei herbyn." Sut i gysylltu Gallwch ebostio Hywel a Mair yn syth o'r ddalen hon. Ebostiwch Ffoniwch: (00 44) 1248 374991 Sgrifennwch: Ar Dy Feic, Bryn Meirion, Bangor LL 57 2BY . Cyfarfod rhai o'r bobl a ymddangosodd ar gyfres gyntaf
|