91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llundain Ffrwydradau Llundain
Gorffennaf 2005
Gwion Lewis, ein harbenigwr ar faterion rhyngwladol yn edrych ar y cymhellion y tu ôl i'r ymosodiadau diweddar ar Lundain

Pam Llundain?
Nid peth hawdd yw canolbwyntio ar waith yn Llundain ar hyn o bryd.

Dyma'r trydydd tro i mi geisio ysgrifennu atoch y mis hwn. Fore Iau, roedd gen i ryw lun o erthygl ar eich cyfer yn dadansoddi'r ymosodiadau terfysgol cyntaf yma ar Orffennaf 7.

Ond erbyn dau o'r gloch y prynhawn, daeth yn amlwg nad oedd y rhan fwyaf ohoni'n gyfredol bellach yn dilyn ymgais arall i barlysu'r brifddinas.

Ofer fu fy ymdrechion i geisio llunio rhywbeth i chi fore Gwener hefyd. Toc cyn un ar ddeg, dyma feddwl y byddai'n well imi gymryd cip ar Ceefax yn sydyn rhag ofn fod yna ddatblygiadau pellach ac yno y bum i am y ddwy awr nesaf wrth i 91热爆 News 24 odro cyn gymaint o ddrama â phosibl o'r newydd fod dyn wedi ei saethu'n farw yng ngorsaf danddaearol Stockwell yn ne'r ddinas.

Mae pethau'n datblygu mor sydyn wrth i'r haf rhyfedd hwn fynd rhagddo, byddai'n annoeth i mi geisio darogan beth fydd canlyniad ymchwiliadau manwl yr heddlu.

Ond yn yr amryfal gyfweliadau yr wyf wedi eu gwneud ar gyfer rhaglenni newyddion 91热爆 Cymru yn dilyn yr ymosodiadau, gofynnwyd un cwestiwn i mi'n llawer amlach na'r un arall, sef: Beth sy'n peri i rywun droi'n hunanfomiwr?

Hunanfomio
.Ni ellir gwneud teilyngdod â chwestiwn o'r fath mewn dau neu dri munud ar raglen radio.
Dylid bod yn ofalus, hefyd, nad yw rhywun yn cyffredinoli: dengys ysgrifau am derfysgaeth yn Israel nad yw cymhelliad pawb wrth ffrwydro eu hunain yr un fath.

Bydd rhai'n gwneud y penderfyniad ar eu pennau eu hunain ond eraill wedi cael eu hannog gan rywun sydd ag awdurdod drostynt.

Bydd rhai'n credu'n gryf y byddant yn cael eu gwobrwyo am eu gweithred mewn byd arall ond eraill yn ei weld fel safiad gwleidyddol yn fwy nag yn un crefyddol neu ysbrydol.

Bydd teuluoedd rhai yn eu cefnogi ac yn cynnal parti wedi'r ffrwydro i ddathlu fod ganddynt 'ferthyr' yn perthyn iddynt.

Bydd teuluoedd eraill yn syfrdanu ac yn galaru'n ddwys.

Mewn galarDylid osgoi gosodiadau ysgubol, felly, ond nid yw hynny'n golygu na allwn fwrw rhywfaint o oleuni ar feddylfryd pobl sy'n defnyddio tactegau o'r fath.

I'r rheiny a gysylltir â'r mudiad rhyngwladol Al-Qaeda - a chymryd fod propaganda'r mudiad hwnnw wedi dylanwadu ar y rhai a ffrwydrodd eu hunain yn Llundain yn ddiweddar - cyfuniad peryglus o ddau beth sy'n bennaf gyfrifol am y sefyllfa heddiw:
Rhwystredigaeth enbyd yn y byd Moslemaidd am bolisi tramor y Gorllewin a'r ffaith fod ffwndamentaliaeth Islamaidd ar gynnydd.

Polisi tramor
Asgwrn y gynnen i Al-Qaeda yw nad oes yna eto dalaith Foslemaidd ym Mhalesteina.

Mae'n ystrydeb erbyn hyn i feio problemau'r byd ar y berthynas ddyrys rhwng Israel a'r Palesteiniaid ond mae cipolwg yn unig ar ddatganiadau cynnar Al-Qaeda yn dangos yn glir mai dyma oedd wrth wraidd sefydlu'r mudiad.

Ymyrraeth America â Sawdi Arabia yw'r ail rwystredigaeth.

Ni all Al-Qaeda stumogi fod brenhiniaeth Arabaidd â pherthynas mor agos â phŵer Gorllewinol, a bod America yn elwa cymaint ar ei hadnodd mwyaf gwerthfawr, olew.

Erbyn hyn, mae angen ychwanegu gwlad arall at y botes hon, Irac.

Beth bynnag oedd ein barn ni yma yn y Gorllewin am y rhyfel yno y llynedd, mae'n amlwg fod Al-Qaeda wedi dehongli ymosodiad America a Phrydain fel ymyrraeth bellach â gwlad sy'n gartref i filiynau o Foslemiaid.

Dymchwel Saddam Ar nodyn personol; y diwrnod pan gafodd delw Saddam Hussein ei ddymchwel gan yr Americanwyr tuag at ddiwedd y rhyfel yr oeddwn yn eistedd mewn bar yn Jodhpur yng ngogledd-orllewin India yn edrych ar y stori'n datblygu ar CNN.

Rai munudau cyn tynnu Saddam i'r llawr, aeth rhai o filwyr America ati i glymu baner eu gwlad o gwmpas ei ben.

Daeth gŵr lleol ataf yn unswydd i gecru. "Do you realize what your Mr Bush has done?" gwaeddodd.

Wedi sylweddoli na fyddwn i ar fy ennill o bwysleisio mai Prydeiniwr oeddwn i, arhosais yn dawel.
"Putting your flag all over the world! You will pay! Just you see - bin Laden will hit back at you! You are mad to do this! You are playing with a madman!"

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd ei eiriau'n atseinio'n arswydus o glir yn fy mhen wrth i mi wylio lluniau byw o'r gwasanaethau achub yn rhuthro at fws oedd mewn trafferthion ar Edgware Road yn Llundain.

Ffrwydrad Llundain Er bod Tony Blair a Jack Straw yn gwrthod derbyn hynny, naïfrwydd o'r radd flaenaf yw credu nad oes cysylltiad rhwng y rhyfel yn Irac â'r ymosodiadau diweddar ar y brifddinas.

Mae nifer helaeth o arbenigwyr yn y maes diogelwch wedi datgan yn ddi-flewyn ar dafod fod Prydain yn wlad fwy peryglus i fyw ynddi yn dilyn y rhyfel.

Yn eu plith y mae'r Sefydliad Astudiaethau Strategol Rhyngwladol a rybuddiodd y byddai'r rhyfel yn cymell mwy o bobl ifanc yn y Dwyrain Canol i droi at derfysg fel modd o ddatrys problemau gwleidyddol.

Wrth gwrs, nid oes yr un o'r rhwystredigaethau hyn yn dod yn agos at gyfiawnhau'r tactegau erchyll, anwaraidd a chwbl annerbyniol a welwyd ar waith yn Llundain yn ddiweddar.

Ond maen nhw, serch hynny, yn rhan o'r darlun sy'n angenrheidiol i ni ddeall wrth wynebu'r her derfysgol.

Ffwndamentaliaeth
Astudio'r ysgrythurauRhan arall o'r darlun sy'n rhaid i ni ei ddeall, er nad yw hi'n wleidyddol gywir i awgrymu hynny, yw fod yna broblem â'r modd y mae Islam ei hun yn cael ei haddoli gan rai heddiw.

Y broblem honno, yn fras, yw fod ffwndamentaliaeth ar gynnydd, ac wedi disodli'r hen draddodiad Moslemaidd, ishtihad, o drin a thrafod dehongliadau gwahanol o'r Koran.

Rhoddir mwy o bwyslais heddiw ar ddehongli'r testun yn llythrennol. Gan fod y Koran yn destun mwy diweddar na'r Beibl a'r Tora yn hanesyddol, mae rhai Moslemiaid yn credu ei fod felly'n fwy 'pur', ac na ddylid ei gwestiynu.

Astudio'r ysgrythurauMae mwyafrif y Koran yn gwbl gydnaws â'n gwerthoedd rhyddfrydig ni yma yn y Gorllewin heddiw. Dywedir mewn un rhan, er enghraifft, "na ddylid gorfodi crefydd ar neb".

Ond, fel pob testun crefyddol, mae ynddo hefyd adnodau problemus o safbwynt y pwyslais cyfoes ar hawliau dynol, megis:
"Lladdwch yr anffyddiwr, pa le bynnag y dowch o hyd iddo".

Os yw datganiadau o'r fath yn cael eu dehongli'n llythrennol gan rai, mae goblygiadau amlwg ar gyfer ein diogelwch ni oll.

Rhyw deimlad o anobaith a ddaw drosaf, felly, wrth weld y pleidiau'n dod ynghyd i gytuno ar gyfreithiau gwrth-derfysg newydd yn sgîl digwyddiadau Gorffennaf 7.

Bydd erlyn y rhai sy'n annog terfysgaeth, neu'n paratoi gweithredoedd terfysgol, yn gymorth i'r awdurdodau yn y tymor byr.

Ond heb edrych yn ehangach ar bolisïau tramor a chymdeithasol, mynd i'r afael â symptomau'r anghydfod yn unig a wnawn, yn hytrach na'i wreiddiau.

Hyn a hyn all y gyfraith ei wneud i ddatrys problemau dybryd cyfoes. Os yw'r drwg yn ddwfn yn y caws, mae angen cyllyll miniocach i gael ato.

- gwefan y 91热爆 (Saesneg)






cysylltiadau
Erthyglau eraill Gwion Lewis

ewrop

> Albania
> Awstria
> Azerbaijan
> Croatia
> Ffrainc
> Gwlad Belg
> Gwlad Groeg
> Hwngari
> Iwerddon
> Romania
> Rwsia
> Yr Almaen
> Yr Eidal
> Sbaen

Bywiogrwydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

I Norwy i weld a-ha

Y Pasg yn Hwngari

Gwersi canu - a chastanetio!

Chwilio am y bobol

Gwylio'r Byd

Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol

Oerfel yn yr Wcráin

Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb

Slofenia

Ffrwydradau Llundain

Anghytgord

G8 - 2005

Cymdeithas Carnhuanawc

Ar Dy Feic - 2006

Cofleidio Sweden

Ar dy feic 2003

Clic i'r cof

Ar Dy Feic

Chwilio am bobol



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy