Graddiodd Gwion Lewis yn y Gyfraith yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni.
Arhosodd yn Rhydychen i wneud gradd bellach, y tro hwn yn canolbwyntio ar gyfraith ryngwladol a hawliau dynol.
Wedi cyfnod "yn codi'n annaearol o gynnar" i gyflwyno newyddion ar orsafoedd radio Champion 103 a Coast 96.3, bu'n teithio o gwmpas y byd, gan dreulio cyfnodau hir yn yr India, Mecsico, Ffiji, Awstralia ac ar yr Ynysoedd Cook. Cafodd flas ar fyw dramor a'r llynedd bu'n byw ym Manhattan, yn astudio cyfraith a gwleidyddiaeth ryngwladol ym Mhrifysgol Efrog Newydd fel Ysgolhaig Fulbright.
Yn ystod ei gyfnod yno, sefydlodd fudiad o'r enw Legal Access Network for South Asians sy'n ceisio dod â gwasanaethau cyfreithiol o fewn cyrraedd y gymuned Asiaidd yn nhalaith Efrog Newydd.
Dros yr haf eleni, bu'n ymchwilio i hawliau iaith ym Mhrifysgol yr Undeb Ewropeaidd yn Florence gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Saunders Lewis.
Bellach, mae'n byw yn Llundain yn cymhwyso i fod yn fargyfreithiwr hawliau dynol.
Dechreuodd Gwion gyfrannu'n gyson i wasanaethau 91热爆 Cymru yn ystod ei amser yn yr Unol Daleithiau ac mae i'w glywed yn gyson yn trafod materion rhyngwladol ar Radio Cymru ac S4C.
|