Gwrthryfel Owain Glyndŵr
top23 Mawrth 2009
Llinach Owain
Ar ochr ei dad, Owain Glyndŵr (Owain Glyndyfrdwy) oedd etifedd rheolwyr Powys Fadog, ac, ar ochr ei fam, roedd yn etifedd i'r hyn a oedd yn weddill o hawliau disgynyddion yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth. Daeth llinell wrywol teulu llywodraethol Gwynedd i ben gyda marwolaeth Owain Lawgoch yn 1378. Wedi hynny, a derbyn bod unrhyw Gymro â'r hawl i'r teitl Tywysog Cymru, Owain Glyndŵr oedd hwnnw. Fe'i ganed tua 1350, a daeth yn arglwydd ar yr hyn oedd yn weddill o dreftadaeth ei hynafiaid yng Nglyndyfrdwy a Sycharth.
Cefndir Owain
Un o wŷr y Goror oedd Owain. Milltir sydd rhwng Sycharth â'r ffin â Lloegr. Trigai ei deulu yng nghysgod prif arglwyddi'r ardal, teulu Fitzalan o'r Waun a Chroesoswallt. Priododd Owain ag aelod o un o brif deuluoedd y Mers. Treuliodd gyfnod yn Llundain ac ym myddin brenin Lloegr; yn wir, roedd yn ymddangos yn batrwm o Gymro a oedd wedi derbyn y drefn Seisnig. Serch hynny, roedd yn gyfarwydd â thraddodiadau ei bobl ei hunan. Cai'r beirdd groeso wrth eu bodd yn Sycharth; roeddynt yn chwannog i'w atgoffa pwy oedd ei hynafiaid, ac fel petai'n ei baratoi i fod yn waredydd y Cymry. Ceir darlun credadwy o'r ddwy wedd o'i bersonoliaeth yn nrama Shakespeare Henry IV.
Cefndir y Gwrthryfel
Diorseddwyd Richard II yn 1399, a chipiwyd coron Lloegr gan Harri IV, arglwydd Brycheiniog, Trefynwy, Cydweli ac Ogwr, er bod mai Edmund Mortimer, perchennog nifer o arglwyddiaethau yn y Mers, oedd gwir etifedd Richard II. Simsan oedd seiliau grym Harri, gan y gwrthwynebwyd ef gan deulu Mortimer a chan deulu pwerus Percy, ieirll Northumberland. Â llawer o uchelwyr Cymru wedi closio at Richard II, darfu i'w ddiorseddiad olygu nad oedd ganddynt mwyach angor yn y drefn frenhinol Seisnig.