Tro ar fyd
Wedi tua 1300, aeth yr hinsawdd yn fwyfwy anffafriol. Ceid hafau gwlyb, gynaeafau gwael a heintiau a effeithiai ar anifeiliaid, ac mae lle i gredu hefyd bod tir yn mynd yn llai ffrwythlon oherwydd y gorddefnydd ohono. Ar 么l tua 1320, dichon i nifer y trigolion ddechrau crebachu, ac mae'n bosibl na fyddai poblogaeth Cymru yn ailgyrraedd y lefel a gyraeddasai yn 1300 hyd ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg.
Yna, ddiwedd y 1340au cafwyd trychineb y Pla Du. Lladdodd y pla gymaint 芒 thraean o'r boblogaeth, ac fe wnaeth daro trachefn a thrachefn, yn arbennig yn 1361 a 1369. Cafodd y trychineb effeithiau pellgyrhaeddol. Arweiniodd at obsesiynau morbid a syniadau milenaraidd. Oherwydd marwolaeth cynifer o daeogion, bu galw am lafur pobl o dras fonheddig, datblygiad a dueddai danseilio'r gwahaniaeth rhwng y rhydd a'r caeth. Oherwydd yr angau yn rhengoedd aelodau'r gwelyau, ataliwyd darnio etifeddiaeth aml i 诺r bonheddig. Dymunai boneddigion uchelgeisiol ymryddhau o beth yr ystyrient oedd cyfyngderau tirddaliadaeth draddodiadol Cymru; dymunent ddal tir yn unol 芒'r Gyfraith Seisnig, honno'n caniat谩u iddynt gronni tir a'i gymynnu i'r mab hynaf. Hynny fyddai'n digwydd yn y pen draw, ac o ganlyniad, byddai rhaniadau cymdeithasol mewn canrifoedd i ddod yn seiliedig ar eiddo yn hytrach nag ar y gwahaniaeth rhwng y caeth a'r rhydd.
Adferiad
Canrif ar 么l y Pla Du ceid arwyddion o adfywiad economaidd. Datblygwyd patrwm o fasnachu'n yn seiliedig ar wartheg a defaid, patrwm a fyddai'n ganolog i economi Cymru hyd y Chwyldro Diwydiannol. Gyrrwyd gwartheg ar draws Cymru gan y porthmyn i'r ffeiriau mawr yn ninasoedd Lloegr; elw'r fasnach honno fyddai prif ffynhonnell arian parod yn y cefn gwlad. Agorwyd mwy o felinau pannu, a gwerthwyd y brethyn ym marchnadoedd trefi'r gororau, Amwythig yn arbennig. Gyda'r adfywiad economaidd, adeiladwyd tai mwy moethus, megis y tai ffr芒m bren a ddaeth i fod yn gyffredin yn rhannau helaeth o ddwyrain Cymru. Arwydd o'r adferiad yn yr economi oedd bod nifer y bobl a drigai yng Nghymru yn cynyddu. Yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd poblogaeth Cymru tua 260,000 o gymharu 芒 thua 300,000 yn 1300.
Diwylliant
Gwaith y Cynfeirdd a ystyrir fel llenyddiaeth gynharaf Cymru, gwaith sy'n cynnwys cerddi beirdd yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn ne'r Alban. Perthyn y Gogynfeirdd, a g芒i nawdd y tywysogion Cymreig, i'r cyfnod 1100 i 1300, a dichon i'w crefft gyrraedd ei hanterth ym Marwnad Gruffudd ap yr Ynad Coch i Lywelyn ap Gruffudd. Wedi'r Goncwest, dibynnai'r beirdd ar nawdd yr uchelwyr, a rhwng y drydedd ganrif ar ddeg a'r unfed ganrif ar bymtheg, cynhyrchwyd corff nodedig o lenyddiaeth yn y mesurau caeth, gyda Dafydd ap Gwilym (tua 1320-70) yn serennu mewn cwmn茂aeth hynod ddisglair. Campwaith rhyddiaith y cyfnod yw'r Mabinogi, cadwyn o stor茂au sydd ymhlith prif gyfraniadau'r Cymry i lenyddiaeth Ewrop. Yn ogystal, lluniwyd gweithiau crefyddol, hanesyddol a mytholegol. O ran cerddoriaeth, dawn fwyaf adnabyddus y Cymry oedd eu gallu i ganu mewn harmoni - dawn a ddaliodd sylw Gerallt Gymro yn y 1190au. Cynhyrchodd seiri coed Cymru waith godidog, yn enwedig y croglenni a gerfiwyd yn y bymthegfed ganrif. Ceir yn Eglwys Fair yn Y Fenni, beddrodau hynod goeth, a thystia'r mynachlogydd a'r cestyll i ddawn y seiri maen a fu'n gweithio yng Nghymru. Yn eglwys Gresffordd, eglwys blwyf harddaf Cymru, daeth talentau seiri coed, seiri maen a gwneuthurwyr gwydr lliw at ei gilydd i greu campwaith gogoneddus.