91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Ci gwyn Ysbryd y ci gwyn
Tachwedd 2006
Cafodd un o ddosbarthwyr Papur Dre brofiad eithaf rhyfedd wrth fynd â rhifyn diwethaf y papur o gwmpas.
Cnociodd ar ddrws un tÅ· lle'r oedd yn gwybod fod gan y teulu ddau gi du.

Daeth gwraig y tŷ at y drws a'r cŵn yn ôl eu harfer, wrth ei sodlau, yn neidio a chyfarth eu croeso. Roedd rhaid i'r wraig fynd yn ôl i'r tŷ i nôl arian i dalu.

Gwrthododd y dosbarthydd y cynnig i fynd i mewn ac arhosodd ar stepen y drws.

Gwelodd wrth i'r wraig droi i fynd yn ôl i'r tŷ fod yna dri ci yn ei dilyn.

Pan ddychwelodd y wraig, dywedodd y dosbarthydd ei bod yn gweld fod gan y teulu bellach dri ci.

'Be welsoch chi?' gofynnodd y wraig, yn edrych yn graff ar y dosbarthydd.

'Wel, un ci gwyn, a'r ddau gi arferol,' oedd yr ateb.

'Dwn im sut i ddweud hyn wrthoch chi,' meddai'r wraig, 'ond dwi'n meddwl eich bod newydd weld ysbryd tÅ· ni!'

Dau gi du yn unig oedd gan y teulu, ond ymddengys bod ci arall blew golau wedi cael ei weld yn y tŷ ar sawl achlysur. Mae weithiau gyda'r cŵn eraill, weithiau ar ei ben ei hun, ond mae nifer o bobl bellach wedi ei weld dros gyfnod o flynyddoedd.

'Tydan ni ddim yn gwybod o lle mae o wedi dod na be mae o eisiau,' meddai'r wraig 'ond tydi o'n gwneud dim drwg i neb. Mi ydan ni'n ddigon hapus i fyw gydag o ond mae ymwelwyr yn cael dipyn o sioc ar adegau!'

Yr adeg yma o'r flwyddyn, mae'n tywyllu'n fuan a Noson Calan Gaeaf newydd fod. Beth arall annaearol sydd yn troedio strydoedd Caernarfon neu yn cuddio mewn corneli tywyll yn eich tÅ· chi?

Cysgwch yn dawel!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý