91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Yr hogia yn mwynhau ar fwrdd y llong O Blas Menai i Bali
Rhagfyr 2006
Hwyl i'r hogia yn y Dwyrain Pell
Roedd tri disgybl o Ysgol Syr Hugh Owen yn lwcus iawn i ennill cystadleuaeth a gynhaliwyd ym Mhlas Menai.
Y wobr oedd cael ymuno efo criw y Gypsy Moth i hwylio ar ei hugeinfed ran o'r daith o Bali i Singapor.

Cafodd Bryn Granville, Iwan Elis a Rhodri Owen (a Mr Gareth Cowell, pennaeth y chweched, i gadw trefn arnyn nhw!) ymweld â llefydd gwahanol iawn yn ystod y fordaith fel Madura, Bintan a Batam.

Dyma beth oedd gan yr hogia i'w ddweud am eu trip.

Iwan: Ar fy siwrnai i'r dwyrain pell, cefais flas ar fyw bywyd syml ar fwrdd un o'r cychod enwocaf, y Gypsy Moth. Roedd profiadau fel glanhau gwaelod y cwch a'i lywio ben bora wrth iddi wawrio yn brofiad bythgofiadwy. Cefais gyfle i neud nifer o ffrindiau newydd yn Singapôr, a dwi'n cadw mewn cysylltiad efo nhw ers hynny. Gobeithio y ca' i brofiad fel hyn eto yn y dyfodol.

Rhodri: Roedd o'n brofiad anhygoel cael byw bywyd fel y bobl leol. Ar un o'r ynysoedd bychain, fe gawson ni gyfle i ddysgu dau ddosbarth. Roedden ni'n synnu o weld pa mor dda roedd rhai o'r plant yn gallu siarad Saesneg. Roedd y fordaith hon yn brofiad bythgofiadwy i ni i gyd.

Bryn: Cefais gyfle i roi cynnig ar nifer o chwaraeon dŵr e.e. Wakeboardio, Hwylio, Scwbadeifio a Snorclo. Roedden ni hefyd yn gorfod bwyta bwydydd tipyn gwahanol i adra. Roedd o'n brofiad gwerth chweil.

Lisa Hughes

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý