91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Y gargoils efo rhai o'r gwirfoddolwyr fu'n helpu efo'r sioe Trwbwl yn y Gwynt
Ebrill 2008
Ar ôl misoedd o baratoi ac ymarfer, daeth syniad gwreiddiol Manon Llwyd o greu Cofi Opera yn fyw yng Nghanolfan Noddfa, ac os na chawsoch chi gyfle i'w weld, mae'r 91Èȱ¬ yn gwneud rhaglen arbennig amdano.
Bydd honno'n cael ei darlledu nos Fawrth, 29 Ebrill am 9 o'r gloch ar S4C. Cofiwch wylio!

Roedd yn brofiad bythgofiadwy i bawb oedd yn rhan o'r prosiect, fel y dywedodd Llinos Mai Morris, Gweithiwr Plant a Ieuenctid Eglwys Noddfa:

Mae'r holl brosiect wedi fy nghyffroi; gweld y plant ar eu gliniau yn taflu geiriau at Mei Mac ac yntau yn eu rhoi ar bapur i greu pennill neu ddau; gweld rhai o'r plant yn dysgu ac yn cyfansoddi alawon hefo Owain Llwyd; gweld y set yn dod yn fyw wrth i grŵp bach brwdfrydig lunio, creu a pheintio dan arweiniad Caroline Roberts, a chlywed Siwan Llynor yn canmol doniau'r plant wrth iddi ddod a'r holl beth at ei gilydd.

Roedd yn berfformiad a oedd wedi'i greu a'i berfformio gan y plant ar eu tir eu hunain! Pleser yw cael dweud bod Eglwys Noddfa yn rhan allweddol o'r gwaith cyffrous hwn - gwaith sydd yn ateb anghenion y stâd ac yn rhoi cyfleon bythgofiadwy i blant, pobl ifanc a'r oedolion sy'n gwirfoddoli!

Ac mae'n amlwg bod pawb wedi cael coblyn o hwyl!

Mae pawb yn Noddfa'n ddiolchgar iawn i bawb am eu hymroddiad a'u help - y gweithwyr, y gwirfoddolwyr, y rhieni a phawb a ddaeth yno i weld i sioe, heb anghofio Manon Llwyd, Cydlynydd Cofis Bach, am ei holl waith caled ac wrth gwrs - diolch mawr i'r plant. Llongyfarchiadau blant!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý