91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Y 14 gyda'u hyfforddwr Nigel Stevenson Canmoliaeth i bobl dre
Tachwedd 2005
... o bob cwr o'r byd
Un nos Wener braf yn ddiweddar, mi roedd 'na deimlad cosmopolitan iawn o flaen y Blac Boi.
Roedd nifer fawr o bobl ifanc o wledydd ar draws y byd yn eistedd ar y meinciau yn mwynhau diod a'r olygfa.

Wrth gwrs, roedd hyn yn ormod o demtasiwn i ohebydd Papur Dre, rhaid oedd busnesa a gofyn pwy oedden nhw a be oedden nhw'n 'i neud yng Nghaernarfon. Daeth i'r amlwg mai gohebyddion dan hyfforddiant efo Reuters oedden nhw - yn Dre'n dysgu eu crefft ac yn aros yn Isfryn Stryd yr Eglwys.

Bob blwyddyn mae Reuters yn gyrru eu gohebwyr newydd i dref fechan, hollol ddieithr, a gofyn iddyn nhw sgwennu stori am yr ardal.

Eleni i Gaernarfon y daethon nhw, 14 o bobl ifanc o wledydd fel Japan, De Korea, Gwlad Pwyl, Yr UDA, Mecsico, Prydain, India, Yr Eidal, De Affrica a'r Aifft.

Gan nad oedden nhw'n nabod yr ardal o gwbwl yn amlwg roedd yn rhaid iddyn nhw holi'r bobl leol i gael stori, ac felly roedd eu llwyddiant yn dibynnu ar faint o gydweithrediad yr oedden nhw'n ei gael gan bobl Caernarfon a'r cylch. Dyma argraff tri ohonynt o'r croeso gawson nhw.

Valentina Za, Reuters Milan:
Be wnaeth yr argraff fwya arna i oedd mor hawdd oedd sgwrsio â phobl y dre. Roedden nhw'n rhyfeddol o garedig. Ar y cyfan roedd pobl wedi eu synnu gan ein cwestiynau ond roedden nhw bob tro'n fodlon rhoi eu hamser i wrando ac ateb.

Gershwin Wanneburg, Reuters Johannesburg:
Mi roeddwn i wrth fy modd yn crwydro o amgylch y castell hynod, cerdded yr hen strydoedd ac edrych allan i'r môr, oedd fel petai yn newid ei siâp a'i liw o leia hanner dwsin o weithiau'r dydd. Roedd pobl y dref ymysg y rhai mwya cyfeillgar i mi erioed eu cyfarfod.

Karolina Slowikowska, Reuters Warsaw:
Roedd y bobl yn ofnadwy o gyfeillgar a goddefgar o 14 gohebydd Reuters oedd yn chwilio am storïau.

Erbyn rŵan maen nhw wedi gadael Caernarfon a chyn bo hir fe fydd y mwyafrif yn dychwelyd i'w gwledydd eu hunain, ond un peth fydd yn sicr - fe fydd enw da Caernarfon a'i phobl yn mynd efo nhw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý