厂别谤别尘辞苍茂补耻'r wythnos
10 Gorffennaf 2008
Dydd Llun
Seremoni Coroni'r Bardd
16.30
Pafiliwn
Tasg: Casgliad o gerddi rhydd hyd at 300 llinell
- 2008: Hywel Griffiths enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
- 2007: Tudur Dylan Jones enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol y Fflint
- 1978: Sion Eirian gipiodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978
(Gwyliwch glip archif trwy glicio ar y ddolen ar ochr dde'r dudalen)
Dydd Mawrth
Seremoni Medal Syr T. H. Parry - Williams er clod
12.00pm
Pafiliwn
- Yn Eisteddfod Caerdydd 2008 dyfarnwyd y Fedal i Mair Penri Jones, Y Bala
Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
17.00
Pafiliwn
Tasg: Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn stor茂ol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau
- 2008: Ifan Morgan Jones oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
- 2007: Tony Bianchi oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint
Dydd Mercher
Seremoni'r Fedal Ryddiaith
16.30
Pafiliwn
Tasg: Cyfrol heb fod dros 40,000 o eiriau
- 2008: Mererid Hopwood o Gaerfyrddin enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Caerdydd. Mae Mererid bellach wedi ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith - y tro cyntaf i ferch ennill tair prif wobr lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol
- 2007: Mary Annes Payne o Ynys M么n oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint
- 1978: Harri Williams oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
Nos Fercher
Seremoni Tlws y Cerddor
19.35
Pafiliwn
Tasg: Cyfansoddiad gwreiddiol rhwng 4 a 6 munud o hyd i bedwar llais SATB gyda chyfeiliant piano neu organ, a fyddai'n addas i'w gynnwys yng nghystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol
- 2008: Eilir Owen Griffiths enillodd y Tlws yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
- 2007: Wyn Pearson oedd enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint
Dydd Iau
Cyflwyno enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn
13.00
Pafiliwn
- 2008: Madison Tazu oedd enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn
- 2007: Julie MacMillan o Dreorci oedd enillydd y Tlws yn Eisteddfod y Fflint
Cyflwyno Enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg
13.05
Pafiliwn
Am gyfraniad helaeth i'r defnydd o'r Gymraeg ym myd Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- 2008: Iolo ap Gwynn oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
Seremoni Cyflwyno enillydd y Fedal Ddrama
13.10
Pafiliwn
- 2008: Dyfed Edwards oedd enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
- 2007: Nic Ros oedd enillydd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint
Dydd Gwener
Seremoni Cadeirio'r Bardd
16.30
Pafiliwn
Tasg: Cerdd neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 300 llinell
- 2008: Hilma Lloyd Edwards o Bontnewydd, Caernarfon oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
- 2007: T. James Jones enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint
Hanes y Gadair ac Eisteddfod Caerdydd
Gwilym R. Jones o Ddinbych enillodd y Gadair pan fu'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 1938. Mae record wael gan Eisteddfodau Caerdydd am deilyngdod y Gadair - ni chadeiriwyd bardd yn Eisteddfod 1960 na 1978. Newyddion da ddaeth yn 2008 pan gipiodd Hilma Lloyd Edwards y wobr, yr ail ddynes erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gwybodaeth ychwanegol
Tua awr o hyd yw pob un o'r prif seremoniau. Mae angen i bawb fod yn eu seddau erbyn 16.15.
Darllenwch am holl seremon茂au Eisteddfod Genedlaethol y Fflint 2007 ac Eisteddfod Caerdydd 2008 trwy glicio ar y dolenni ar y dde.