Coron ddinesig Hywel
Dinas Caerdydd a Heol Eglwys Fair yn sbardun
O'r wisg werdd i wisg wen mewn oriau
O fewn chwe awr ddydd Llun dyrchafwyd Hywel Griffiths o Lanbadarn-fawr ger Aberystwyth o'r Wisg werdd yn yr Orsedd i wisg wen prifardd!
Fore Llun yr oedd Hywel yn cael ei urddo a'r wisg werdd am ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd, Shir G芒r 2007.
Cyn diwedd y prynhawn yr oedd yn cael ei gyhoeddi yn fardd Coronog Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd - camp a fydd yn sicrhau y wisg wen iddo.
Lluniau Caerdydd
Dan y ffugenw Y Tynnwr Lluniau lluniodd Hywel, sy'n fab i'r darlledwr Tweli Griffiths, gasgliad o gerddi ar y testun Stryd Pleser yn darlunio bywyd yng Nghaerdydd o safbwynt rhywun o'r tu allan i'r brifddinas a chyffro hwyr y nos ar Heol Eglwys Fair.
Dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am y Goron yn y Genedlaethol - er iddo gystadlu o'r blaen am y Gadair.
Dywedodd, o'r ddau, bod yn well ganddo gyfansoddi ar y mesurau caeth.
"Mae'n well gen i gynganeddu - wn i ddim pam - ond rwy'n hoffi sgwennu yn y mersurau rhydd hefyd ac fe wnes i fwynhau sgrifennu y rhain," meddai mewn sgwrs gyda'r Wasg yn dilyn seremoni'r coroni.
Bydd ei awen ar brawf unwaith eto yfory, pan fydd yn cymryd rhan yn ymryson y beirdd.
Ond dywedodd nad yw wedi cymryd golwg fanwl hyd yn hyn ar destunau'r Genedlaethol y flwyddyn nesaf!
Ar gyfer y gystadleuaeth
Cyfansoddodd ei gerddi Stryd Pleser yn benodol ar gyfer y gystadleuaeth a phwysleiodd mai darlun rhywun sy'n edrych o'r tu allan ar fywyd Caerdydd yw o a bod yna elfernnau beirniadol yn y cerddi.
Barn y beirniaid
Mewn cystadleuaeth "anwastad" a ddisgrifwyd fel un brin iawn ei chasgliadau oedd yn gafael dywedodd Aled Gwyn - a oedd yn traddodi'r feirniadaeth ar ran Derec Llwyd Morgan ac Elin ap Hywel - i waith Y Tynnwr lluniau afael o'r dechrau.
"Ac mae ei ddeuddeg cerdd sy'n darlunio bywyd y brifddinas yn profi ein bod ni yng nghwmni bardd," meddai.
"Mae'r gerdd agoriadol yn mynegi'r wrtheb fod hyd yn oed y braw, yn s诺n seirenau ar y strydoedd yn hwyr y nos, yn gysur," ychwanegodd.
Disgrifiodd y bardd fel un sy'n gallu cynnal ei ddelweddau heb eu godro a chyda'r ddawn i symud o un cywair i'r llall.
"Ond ei thema lywodraethol yw ei obaith am Gymreigeiddio'r ddinas. Roedd y tri ohonom i wahanol raddau ar y dechrau yn amau delfrydiaeth ysgubol y bardd hwn. Ond yn y diwedd trechu ein sinigiaeth wnaeth ei gerddi," meddai.
Ffyddiog yn y dyfodol
" Mae e'n gwbl ffyddiog yn nyfodol ein prifddinas a'n cenedl - iddo fe nid lle tywyll, chwerw ac anobeithiol yw'r ddinas i'w dilorni yn barhaus, ond cartref i'n dyheadau a'n gobeithion dyfnaf, ac mae hwn yn dathlu ei ddinas ac yn dathlu bywyd. "Mae'n drawiadol mai teitl y gerdd olaf yn y casgliad yw 'Heno' gan i'r gair gael ei ddefnyddio gan feirdd ers dyddiau 'Stafell Cynddylan' fel gair allweddol hiraeth ac anobaith ond yma mae'n mynegi gobaith y wawr sydd i ddod," meddai.
"Mae yn y casgliad i gyd weledigaeth a mynegiant bardd hyderus. Ac am ei ddawn fel bardd, a'r modd cofiadwy y cyflwynodd ei asbri a'i afiaith, ei orfoledd ysgubol a'i obaith cadarnhaol, mae'n bleser cyhoeddi bod Y Tynnwr Lluniau yn llwyr deilyngu Coron yr Eisteddfod hon a phob clod a berthyn iddi."