Medal i Miriam
Mererid yn ennill medal i'w merch!
Anrheg ben-blwydd i'w merch
Am y tro cyntaf mae merch wedi ennill tair prif wobr lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol,
Bnawn Mercher yng Nghaerdydd - ar ben-blwydd ei merch yn 18 oed - ychwanegodd Mererid Hopwood y Fedal Ryddiaith at y Gadair a enillodd yn 2001 a'r Goron a enillodd yn 2003.
Ond dywedodd nad oedd wedi gosod trydydd buddugoliaeth yn nod iddi ei hun ar 么l ennill y ddwy arall.
"Ddim o gwbl," meddai mewn cynhadledd i'r wasg wedi'r seremoni ar lwyfan y pafiliwn.
Setlo'r cownt
"Ond roeddwn i'n dweud yn gellweirus, ac mae yna elfen o wirionedd; mae tri o blant gyda ni ac roedden nhw'n dweud, 'Pwy sy'n mynd i gael y Gadair, pwy sy'n mynd i gael y Goron a phwy sy'n mynd i gael dim?'
"Felly dyma fi'n meddwl, 'Mi wn芒i setlo'r cownt a gweld os gallwn i gael un peth bach arall!" ychwanegodd.
Ychwanegodd mai Miriam, a oedd yn cael ei phen-blwydd yn 18, fydd yn cael y fedal a enillodd ei mam ddydd ei phen-blwydd.
Dywedodd mai'r testun - cyfrol ag iddi gefndir dinesig - a'i sbardunodd i gystadlu.
"Ges i magu yng Nghaerdydd a meddwl siawns y gallwn i bwyso ar rai o'r profiadau ges i a rhai o'r atgofion o'r Gaerdydd honno n么l yn y Chwedegau a'r saithdegau - ond mae'n si诺r mai'r testun oedd y sbardun," meddai.
Ond gwadodd mai nofel amdani hi yw gan ddweud bod y prif gymeriad yn gwbl wahanol.
Er i Gwilym R Jones a Tom Parri Jones gyflawni'r gamp hon hefyd, Mererid Hopwood yw'r unig un sy'n dal yn fyw.
Gwahaniaeth barn
Ond yr oedd gwahaniaeth barn rhwng y beirniaid pwy haeddai'r wobr ac meddai Catrin Beard wrth grynhoi ei beirniadaeth o'r llwyfan:
"Er mai yng ngwaith Portenos mae'r gwreiddioldeb rhemp a'r cyffro beiddgar, byddai'n amhosibl gwobrwyo'r gyfrol fel y mae'n sefyll.
"Cadernid ac eofndra Tan y Bwlch sydd wedi plesio Aled Islwyn fwyaf, a'r gyfrol a leolwyd yn Afghanistan yw'r un yr hoffai ef ei gweld yn cipio'r fedal.
"Ac er fy mod i'n hoff iawn o straeon melfed, llyfr swynol, dirdynnol, lle mae meddwl yn troi'n emosiwn, a chyfrol hefyd sy'n cynnwys y profiad dinesig hwnnw yr oeddwn i'n chwilio amdano a greodd yr argraff fwyaf arnaf i ac ar Aled Jones Williams.
"Rwy'n falch i ddweud fod Aled Islwyn hefyd yn cytuno ei bod yn llawn deilyngu'r wobr, ac felly mae'n bleser cyhoeddi mai O Ran gan yn dawel bach yw cyfrol y fedal eleni," meddai.
'Beth yw adnabod'
Am nofel Mererid Hopwood dywedodd:
"Ar flaenddalen y nofel hon ceir dyfyniad o waith Waldo Williams, 'Beth yw adnabod?', a thaith - lythrennol a ffigurol - Angharad Gwyn i adnabod ei theulu, a'i thad yn arbennig, a geir yma.
"Cychwynna'r gyfrol ag Angharad yn dal y tr锚n o Paddington i Gaerdydd, gyda'r bwriad o dreulio'r daith yn darllen drwy broflenni cyfrol deyrnged i'w thad, a fu'n gerddor llwyddiannus. Darllenwn y proflenni gyda hi, ac aiff 芒 ni hefyd i hel atgofion am ei phlentyndod yng Nghaerdydd.
"Mae gan yr awdur hwn st么r gyfoethog o iaith ddi-lol at ei ddefnydd, a drwyddi a thro mae'r nofel yn taro deuddeg mewn ffordd synhwyrus a barddonol.
"Fe'm hudwyd i gan y gwaith hwn. I ddechrau roeddwn yn meddwl mai'r rheswm am hyn oedd bod y Gaerdydd a ddisgrifir ynddi mor gyfarwydd i mi fel un a fagwyd yn y ddinas yn yr un cyfnod ag Angharad.
Dryswch plentyndod
"Ond mae mwy nag uniaethu personol yma. Ceir disgrifiadau o ddryswch plentyndod sy'n gyffredin i bawb, ac mae perthynas anodd ond cariadus Angharad a'i thad wrth iddi dyfu yn cael ei phortreadu'n gynnil a sensitif. Mae'r tri ohonom yn gyt没n mai dyma awdur mwyaf caboledig y gystadleuaeth," meddai.