A fydd teilyngdod?
A fydd enillydd i'r Gadair eleni?
Mae dyfalu mawr yn faint o brif gystadlaethau'r Eisteddfod y bydd enillwyr yng Nghaerdydd eleni.
Yng nghystadleuaeth y Gadair llwm iawn fu hi yn y Brifddinas yn y gorffennol. Mewn pum Eisteddfod dros y ganrif a chwarter diwethaf dim ond unwaith y bu cadeirio.
A chydag Archdderwydd newydd yn llywio'r seremon茂au eleni mae dyfalu mawr a gaiff Dic yr Hendre hefyd y diflastod o gyhoeddi 'Neb yn Deilwng'.
Yn ystod tymor ei ragflaenydd, Selwyn Iolen, bu gwobrwyo ym mhob un o'r seremon茂au a lywiodd.
Dyma sut y bu pethau hyd yn hyn yn hanes eisteddfodau cenedlaethol Caerdydd:
- 1883 - neb yn deilwng o'r gadair, Coroni Anna Walter Thomas
- 1899 - Neb yn deilwng o'r gadair; Coroni Richard Roberts
- 1938 - Cadeirio Gwilym R Jones a Choroni Edgar H Thomas
- 1960 - Neb yn deilwng o'r gadair; Coroni W J Gruffydd (Elerydd)
- 1978 - Neb yn deilwng o'r gadair; Coroni Si么n Eirian
Er pan fu cystadleuaeth Medal Ryddiaith bu teilyngdod bob tro:
- Elena Puw Morgan (1938)
- Rhiannon Davies Jones (1960)
- Harri Williams (1978).