Huotledd hanner canmlwyddiant pigo crachen Tryweryn
Pan ddaeth adfeilion Capel Celyn i'r golwg yn sychder mawr haf 1984, mi f没m i a'r diweddar Gwyn Erfyl yno'n holi'r brodorion oedd wedi colli'u cartrefi am eu teimladau bryd hynny. Cwpled y prifardd Elwyn Edwards oedd yn crynhoi'r ymateb: "Ailagor craith i'r eithaf a wnaeth Cwm yr hirlwm haf."
Hyd y gallwn i synhwyro, roedd mwyafrif cynulleidfa lawn Theatr Clwyd wedi mwynhau pigo crachen y graith honno eleni ac wedi gwerthfawrogi cynhyrchiad bywiog oedd yn llifo'n ddifyr trwy benodau niferus yr hanes dramatig.
Hel atgofion ac ymdrybaeddu'n braf mewn hen ddicter oedd yr ymateb cyffredinol, gydag ychydig yn unig yn amau faint o densiwn drama greadigol rhwng cymeriadau crwn oedd ar y llwyfan, er nad hawdd creu drama lle mae'r gynulleidfa yn gwybod eisoes be' ydi diwedd y stori.
Yn sicr, roedd yma elfennau dramatig mewn nifer o'r golygfeydd, a rheini fel cyfres o donnau'n golchi dros y gynulleidfa, ond heb y dyfnder o deimlad y byddai ambell olygfa feithach afaelgar wedi'i gynnig.
Angen mwy o wrthdaro?
Mae gen i gof plentyn o fod yn ardal Penllyn ganol y Pumdegau a sylweddoli mai teimladau cymysg iawn oedd yno. Dadl rhai oedd y byddai'r gwaith a ddeuai o godi'r argae anferth yn gaffaeliad gwerthfawr iawn i economi ardal wledig dlawd.
Yn ddiweddarach, prin fod aberth y tri chenedlaetholwr yn ffrwydro trosglwyddydd trydan ar safle'r adeiladu wedi cael derbyniad ffafriol gan drwch y boblogaeth leol. Digon cymysglyd oedd yr ymateb ym Mhenllyn ganol y ganrif ddiwethaf.
Mae'n debyg, felly, y gellid bod wedi dangos mwy o wrthdaro rhwng y brodorion, mwy o ddrama'r fro ei hun - a awgrymwyd yn nychan y ddihareb, "Mewn undod mae nerth" - yn hytrach na'r argraff gyffredinol gyfarwydd o'r pentref bach capelgar Cymraeg yn cael ei sarhau gan y ddinas fawr ddrwg Saesneg.
Perygl gwrthdaro'r hen stori ydi fod cyflwyno propaganda cenedlaethol yn esgor ar bregeth yn hytrach na drama. Ond eithriadau oedd y munudau hynny pan oedd ambell i fonolog yn rhy bregethwrol a'r pytiau deialog rhwng y Saeson cefnog di-hid yn blasu'n bur hen ffasiwn.
Gwreiddioldeb a hiwmor
Yn gadarnhaol, roedd yma gryn wreiddioldeb ar adegau, yn enwedig wrth gyfleu elfennau o hiwmor annisgwyl: un o'r plant yn credu fod pobl Lerpwl yn "ofnadwy o fudr" fod angen yr holl dd诺r arnyn nhw, a'r eironi fod plentyn arall yn gobeithio cael gwialen bysgota yn anrheg Nadolig.
Golygfa gynta'r ail act oedd yr enghraifft orau o hiwmor: y ddau blismon lleol wrthi'n crwydro'r bryniau'n saethu cwningod yn dod ar draws y ddau genedlaetholwr di-Gymraeg a fu'n gollwng olew o un o drosglwyddyddion y safle. Mae yma ysgrifennu a pherfformio doniol iawn am y cam-ddealltwriaeth rhyngddyn nhw.
Mae sgript Manon Eames yn grefftus naturiol gydol y ddrama, gydag areithiau a deialogau bachog, a rhai llinellau cofiadwy: y byddai digon o dd诺r yn y llyn i olchi'r euogrwydd ar ddwylo Lerpwl, a chwestiwn y genedlaetholwraig ifanc: "Pwy ddiffoddodd y t芒n yn Ll欧n?"
Sylw arall arwyddocaol oedd: "'Da ni'n reit dda am ymladd... ymysg ein gilydd, ran amla'."
Cyfarwyddo byrlymus
Rhaid canmol cyfarwyddo byrlymus Tim Baker, sy'n gwneud i'r cynhyrchiad lifo'n ddiddorol a di-dor, a phatrymu'r llwyfannu'n effeithiol trwy'r amser. Roedd y llwyfan gwag o unrhyw set barhaol yn gymorth i'r symud, a'r lluniau achlysurol ar sgr卯n y cefndir yn ychwanegiadau arwyddocaol i leoli'r digwydd ac i gofio trais y gorffennol.
Roedd glaw'r olygfa gyntaf yn atgoffa dyn o law golygfa gyntaf drama deledu Meic Povey Y Weithred am yr un hanes, a'r g芒n boblogaidd Return to Sender yn cael ei chwarae yn y ddau gynhyrchiad, hefyd. Ond y gymhariaeth amlycaf oedd yr emyn Cofia'n Gwlad . . . sy'n cael ei ganu'n effeithiol ar y llwyfan tra mai'r d么n honno oedd prif thema gerddorol y ddrama deledu.
Defnydd da o gerddoriaeth
Roedd defnydd da o gerddoriaeth gydol y ddrama yn Theatr Clwyd, a'r effeithiau sain yn berthnasol ac effeithiol. Fel y sain, roedd y goleuo hefyd yn gweithio i'r dim trwy'r amser, heb i'r sain na'r goleuo dynnu sylw atyn nhw'u hunain.
Roedd cyfuniad sain oedfa ola'r capel, y tr锚n ola'n gadael a'r d诺r yn diferu yn glo effeithiol iawn i'r act gyntaf.
Mi fydda' i'n weddol amheus pan fo drama angen stor茂wr neu ddau i gynnal y naratif, ond digwyddai hynny yma'n ddigon deheuig. Mi fydda' i'n fwy nag amheus am y defnydd cynyddol o Saesneg ym mron pob cynhyrchiad bellach, ac eto 'doedd hynny ddim yn swnio'n rhy chwithig yng nghyd-destun yr hanes hwn.
Mae'n bosib' y gellid cyfleu Seisnigrwydd Lerpwl gydag acen yn hytrach nag iaith, ond rwy'n derbyn fod cyfuniad ieithyddol y ddrama hon yn ddigon derbyniol.
Actio llwyddiannus gan bawb
Gan fod cyfraniad pob actor i'w ganmol gydol y ddrama, tydw i ddim am enwi unrhyw unigolyn: cynhyrchiad uned oedd hwn, ac un llwyddiannus iawn o safbwynt perfformio.
Yr unig frychau m芒n oedd tuedd un o'r stor茂wyr i ruthro'r llefaru ar y dechrau, ac anallu un o'r actorion ifanc i argyhoeddi fod ei acen Ogleddol yn un naturiol - yn enwedig pan gynrychiolai'r Elwyn Edwards ifanc a gafodd ei gosbi'n yn yr ysgol am fynd ar yr orymdaith i Lerpwl.
Un o eiliadau mwyaf emosiynol y ddrama oedd y fam ifanc wrth fedd ei mab bychan yn y fynwent oedd i'w boddi, a hithau'n methu wynebu ei gladdu eilwaith mewn man arall. Dyma gyflwyno elfen o wreiddioldeb mewn hanes cyfarwydd yn llwyddiannus iawn.
Gwreiddiol ac effeithiol eironig oedd clywed anthem y sgowsars, You'll Never Walk Alone, yng nghyd-destun protest Tryweryn: un o sawl enghraifft wiw o weledigaeth Manon Eames yn y sgript hon.
'Does dim dwywaith fod y cydweithio arferol rhyngddi a Tim Baker wedi llwyddo i ddiddanu cynulleidfa'r noson gyntaf gyda pherfformiadau canmoladwy y deuddeg actor a'r t卯m technegol.
Drama ddogfen grefftus a gafaelgar sydd yma, yn adrodd hanes cyfarwydd mewn dull bywiog a diddorol. Hwyrach y daw dramodydd arall i dreiddio i ddyfnder tensiwn y ddrama rhwng y brodorion eu hunain.
Mae'n debyg y bydd rhan fwyaf cynulleidfaoedd Porth y Byddar yn fwy na bodlon gyda darlun y cynhyrchiad hwn o bennod hanesyddol yn natblygiad ein ymwybyddiaeth o Gymreictod.