Drama am gyn filwr yn dychwelyd i Gymru i agor caffi fydd un Cwmni Bara Caws yn Eisteddfod genedlaethol Yr Wyddgrug.
Awdur Caffi Basra ydy Eilir Jones sydd wedi sgrifennu dram芒u eraill ar gyfer y cwmni - ac actio ynddyn nhw.
"Wedi cyfnod hir yn brwydro'r Shi'ites ac ar 么l ca'l llond bol ar Hisbollah ma' Raymond wedi dod yn 么l i Gymru fach i agor caffi," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Ond yn ogystal 芒 bod yn 'gwffiwr' s芒l doedd Raymond fawr o gogydd ychwaith "doedd bywyd yn y catering corps ddim wedi ei baratoi ar gyfer gwneud bwyd i bobol oedd a'r dewis i fynd i rywle arall!"
Cymeriadau eraill yn y ddrama yw ei wraig Wena, Kazio, mewnfudwr o Wlad Pwyl a Shania, mam i efeilliaid.
"Be mae Raymond isio ydi gwyrth. A dyna'n union mae'n gael - gwyrth sy'n denu ffwndamentalwyr o bob lliw a llun i'w fwyty ffiaidd. Os oedd hi'n ddrwg yn Irac mae hi ar fin mynd llawer gwaeth yn Caffi Basra!"
Yr actorion fydd; Iwan Charles, Gwenno Elis-Hodgkins, Eilir Jones, Dyfed Thomas ac Awen Wyn gyda Tudur Owen yn cyfarwyddo.
Bydd Caffi Basra i'w gweld yn Ystafell Clwyd, Clwyd Theatr Cymru, nos Lun, 6 Awst - nos Iau 9 Awst am wyth o'r gloch.
Bydd y ddrama yn mynd ar daith o amgylch Cymru rhwng 4 Medi a 6 Hydref.