Adolygiad Catrin Jones o Antur yn y Steddfod
Diwedd yr antur.
Am Hanner awr wedi dau, brynhawn Sadwrn olaf Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus Sir y Fflint a'r Cyffiniau, roedd rhes hir o bobl eiddgar o bob oed yn disgwyl i fynd i mewn i Theatr y Maes i weld Antur yn y Steddfod sef cynhyrchiad olaf Anturliwt.
Gwersi wythnosol
Cwmni yw Anturliwt a sefydlwyd yn Ninbych yn 2001 er mwyn cynnig gwersi wythnosol yn y celfyddydau perfformio i blant a phobl ifanc rhwng chwech a 18 oed a dywed sylfaenydd Anturliwt, Anwen Jones, bod tua 80 ar y gofrestr; a hawdd credu hynny o weld mor orlawn oedd y theatr.
Os felly, pam bod Anturliwt yn dod i ben? Yn sicr, nid diffyg talent yw'r rheswm.
Pedair rhan oedd i'r perfformiad ac fe'i disgrifwyd yn Rhaglen yr Eisteddfod fel detholiad o sgetsus, caneuon, eitemau sioeau cerdd a storiau.
Cychwynwyd gyda'r aelodau iau yn eu crysau T lliwgar a logo yn canu caneuon bywiog am fynd am dro i ben draw'r byd ac i lan y mor.
Rhwng y caneuon cafwyd deialogau. Ai'r disgyblion eu hunain a gafodd y siawns i ysgrifennu rhain dybed? Fy hoff g芒n yn y rhan yma oedd Siopa gyda'r plant yn amlwg yn mwynhau gwneud symudiadau'r ddawns.
Dramatig ac arbrofol
Naw o bobl ifanc yn eu harddegau cynnar oedd yn perfformio Rhan 2.
Dyma'r rhan fwyaf dramatig a'r mwyaf arbrofol - a braf oedd gweld y bobl ifanc yn cael gwneud rhywbeth mwy heriol na dramodigau naturiolaidd. Dramateiddio stori duw'r awyr oedd yma gyda'r amlddawnus Steffan Rhys Hughes yn cymryd y brif ran.
Defnyddiwyd masgiau ac rydw i'n bersonol yn hoff iawn o'r defnydd o fasgiau ac roedd rhain yn lliwgar a deniadol.
Ond gocheler rhag iddynt effeithio ar y llefaru.
Oni fyddai masgiau yn cuddio hanner yr wyneb wedi bod yn fwy effeithiol?
Neu eu haddasu fel bod siap y geg yn llawer mwy agored i ymdebygu i "gorn siarad" y Groegiaid?
Detholiad Oliver
Detholiad o'r ddrama gerdd Oliver a gafwyd yn Rhan 3 gyda'r pymtheg aelod o'r cast wedi eu gwisgo'n syml mewn crysau T gwyn a gwasgodau a throwsusau brown wedi rhwygo.
Roeddynt yn amlwg wrth eu boddau yn canu Bwyd, Bendigaid Fwyd, Ystyria dy hun a Rwyt ti werth y byd. Dyma gyfle euraidd i'r bechgyn prin serennu.
Da iawn chi hogia!
O Branwen
Dychwelodd y bobl ifanc yn eu harddegau ar gyfer cloi'r cyflwyniad. Triawd gychwynnodd ran pedwar sef Steffan Rhys a dwy ferch yn canu Cwsg Osian o'r ddrama gerdd Nia Ben Aur - gwefreiddiol!
Dyma berfformiad cwbl ddisgybliedig ac roedd hi'n rhyddhad i minnau bod dramau cerdd Cymreig yn ogystal a rhai Seisnig yn cael sylw gan y cwmni.
Detholiad o Branwen a gyflwynwyd nesaf ac er mai dim ond grwp o wyth oeddynt, gwnaethant pob ymdrech i gyflwyno crynodeb byw o'r stori. Un o'r uchafbwyntiau oedd yr ymladd rhwng y Cymry a'r Gwyddelod ar ffurf dawns.
Diwedd trist
Fel stori Branwen, diwedd trist oedd i'r cyflwyniad hwn hefyd ac fe'm gadawyd yn disgwyl mwy.
Er ei bod hi'n llethol o boeth yn y theatr buaswn wedi aros yno i weld a chlywed mwy. Fflat iawn oedd y diwedd.
Ble oedd y ffinale mawr?
Ble oedd y dathlu?
Roedd hi'n amlwg mai fel hyn yroedd tiwtoriaid Anturliwt wedi bwriadu i'r sioe fod; sef arddangosfa o waith a thalent y bobl ifanc, ond i rywun fel fi sy'n gweithio gyda phobl ifanc ym myd y ddrama yn ddyddiol ac yn tristhau yn arw bod cwmni fel hwn yn dod i ben, buaswn wedi hoffi gweld mwy o ysbryd rhyfelgar a phrotest.
Mae angen ymdrech ac ewyllys i lwyddo. Mae llwyddiant yn magu llwyddiant. Does dim dwywaith bod y dalent gynhenid yma ond rhaid wrth arbenigwyr i feithrin y talentau hyn.
Rhywun i'r adwy?
O drafod gydag Anwen Jones yn ddiweddarach eglurodd ma'r brif broblem yw diffyg hyfforddwyr drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Clwyd. Er mwyn parhau i ateb y gofyn byddai angen chwe athro i gynnal chwe sesiwn dwyawr yn wythnosol ac oherwydd gofynion teuluol roedd y baich yn drech na'r staff presennol ac mae'r costau'n uchel i gyflogi arbenigwyr.
Y gobaith yw y bydd rhywun yn dod i'r adwy a sicrhau bod parhad yn narpariaeth celfyddydau perfformio yn Sir Ddinbych. Os na, mae pobl ifanc yr ardal hon yn cael cam.