O'r Sadwrn cyntaf i'r olaf daw 91热爆 Cymru 芒'r cyfan o'r cystadlu a'r bwrlwm yn fyw o'r Maes ar radio a theledu.
Ar y teledu
Gyda 138 awr o ddarlledu bydd y ddarpariaeth eleni yn well nag erioed o'r blaen.
Y t卯m cyflwyno ar y teledu yn ystod y dydd fydd Huw Llywelyn Davies, Alwyn Humphreys a Sara Gibson yn y stiwdio gyda Sh芒n Cothi a Mari Grug y tu cefn i'r llwyfan.
Tara Bethan a Morgan Jones fydd yn crwydro'r Maes gyda Rhun ap Iorwerth yn cyflwyno'r rhaglenni gyda'r nos.
Darlledir Oedfa Bore a'r Gymanfa Ganu yn fyw o'r Pafiliwn y Sul agoriadol.
Ac ar y wefan hon bydd clipiau o rai o'r beirniadaethau a digwyddiadau o'r Babell L锚n a holl newyddion yr 诺yl.
Mewn ardaloedd arbennig o'r maes ac ym Maes B y cyfan sydd angen ei wneud yw gwasgu botwm ar eich ff么n i dderbyn y gwasanaeth Bluetooth i gael clipiau fideo, t么n i'r ff么n ac ambell g芒n arbennig.
Bydd Mari Lovgreen fydd yn cyflwyno'r cyfan o arlwy'r Babell L锚n gan gynnwys Stori'r Dydd ac ymrysonau'r beirdd a gellir ymuno a hi drwy ddefnyddio'r botwm coch ar deledu.
Bydd y gwasanaeth newydd hwn ar gael i wylwyr ar S4C2 hefyd.
Y rhaglenni teledu
-
Rhaglenni Uchafbwyntiau gyda'r hwyr.
- Oedfa'r Bore, Dydd Sul, Awst 5, 91热爆 Cymru ar S4C, 10.30am.
- Cymanfa Ganu Sir Fflint a'r Cyffiniau, Dydd Sul, Awst 5, 91热爆 Cymru ar S4C, 8pm
- Y Babell L锚n, Dydd Llun - Dydd Gwener, Awst 6-10, 91热爆 Cymru ar S4C2
Radio Cymru ar y Maes
Yn ystod yr Eisteddfod bydd Eleri Sion yn crwydro'r Maes yn siarad 芒 chystadleuwyr ac ymwelwyr.
Hywel Gwynfryn fydd yn darlledu o'r stiwdio ac yn ymuno ag ef i sylwebu ar y cystadlu bydd Rhiannon Lewis a Sion Ifan, enillydd gwobr Talent 91热爆 Radio Cymru yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Tu cefn y llwyfan bydd Nia Lloyd Jones.
Bydd Jonsi yn cyflwyno'i raglen o'r maes carafannau a bydd timau'r Post Cyntaf, Taro'r Post a Post Prynhawn yn cyflwyno'r newyddion a'r pynciau trafod diweddaraf o'r Maes.
Beti George fydd yn cyflwyno Tocyn Wythnos bob gyda'r nos.
Darlledir Bwrw Golwg o'r Maes fore Sul ac Oedfa'r Boreyn fyw o'r Pafiliwm a Chymanfa'r Eisteddfod gyda'r hwyr.
Criw Crannog o dan arweiniad Dic Jones fydd yn brwydro'n erbyn Myrddin ap Dafydd a chriw Y Tir Mawr yn ffeinal Y Talwrn.
Maes B fydd cartref C2 am yr wythnos yn cyflwyno rhaglenni estynedig yn fyw o stiwdio yng nghefn y llwyfan.
Bydd y cyflwynwyr yn darlledu'n fyw o gigs Maes B yn ogystal 芒 gigs Cymdeithas yr Iaith yn ystod yr wythnos. Galwch draw i weld sioe arbennig Glyn a Magi ar Lwyfan Perfformio 3 ar faes yr eisteddfod o ddydd Llun i ddydd Gwener 4-5pm!
Rhaglenni 91热爆 Radio Cymru
- Eisteddfod Genedlaethol, dydd Sadwrn 12.30pm, dydd Sul 2pm, dydd Llun a dydd Gwener 11am a 2pm, dydd Mawrth - dydd Iau 11am a 2.15pm
- Tocyn Wythnos, dydd Sadwrn 6pm, dydd Llun - dydd Mawrth, dydd Iau - dydd Gwener 6.30pm, dydd Mercher 6.15pm
- Bwrw Golwg, dydd Sul 8.30am
Oedfa'r Bore, Sul 11.30am
- Ffeinal Talwrn, dydd Sul 5.30pm
- Cymanfa'r Eisteddfod, dydd Sul 8pm
- Post Cyntaf, dydd Llun - dydd Gwener, 7am
- Jonsi, dydd Llun - dydd Gwener, 8.30am
- Taro'r Post, Dydd Llun - Dydd Gwener, 1pm
- C2, dydd Llun - dydd Mawrth a dydd Iau 8pm, dydd Mercher a dydd Gwener 11.30pm