| |
Nodiadau: Cau pen y mwdwl
Bu'n wythnos ragorol dan heulwen Gwent gyda bron i 150,000 wedi ymweld 芒 maes y brifwyl erbyn y Gymanfa, nos Sul.
Ond er gwaethaf y tyrfaoedd da a oedd yn cystadlu'n agos, gan ragori ambell ddiwrnod ar Feifod y llynedd mae'r pryderon yn parhau am gyflwr ariannol Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Ac ap锚l am arian i gadw'r Eisteddfod rhag dyledion oedd un Llywydd Llys yr Eisteddfod, R Alun Evans, ar y diwrnod olaf.
Amser a ddengys yn awr a fu yr hyn a ddigwydd yn Nghasnewydd yn ddigon i sbarduno'r Cynlluniad, drwy'r Bwrdd Iaith, i fod yn Ifor Hael.
Wrth gau pen y mwdwl mae'n braf edrych yn 么l dros rai o ddigwyddiadau'r wythnos na chafodd eu cofnodi ar wefan 91热爆 Cymru'r Byd hyd yn hyn.
Camgymeriad yr wythnos Yn y Babell Gelf a Chrefft y gwelwyd camgymeriad mwya'r wythnos wrth i ymwelydd ddychryn carwyr celf a pheri i'r Swyddog Celfyddydau Gweledol ruthro rhwng y gweithiau i arbed y dydd.
Yr hyn achosodd y fath gyffro i Robyn Tomos oedd gweld ymwelydd yn camgymryd y gwaith celf yn y llun ar y ddalen hon am bensil go iawn a mynd ati i geisio'i defnyddio.
Fel y dywedodd gwr o'r Cymoedd yn Saesneg wrth wylio'r ymrafael, "Dyma'r hwyl; mwya rydw i wedi'i gael ers dod mewn yma.
Ymddiheuriad yr wythnos Mewn wythnos gythryblus bu sawl sefyllfa ymddiheurol.
Yr Arglwydd Elis Thomas yn ymddiheuro am alw protestwyr a wrthwynebai araith Saesneg mewn cyfarfod ar y Maes yn "Ffasgwyr iaith" ond yr Archdderwydd yn gwrthod ymddiheuro am ymddangos fel pe byddai yn cymharu aelodau o Gyngor yr Eisteddfod i'r moch hynny yn y winllan enwog a roddwyd i'n gofal gan Saunders Lewis.
Ond erbyn diwedd yr wythnos bu'n rhaid iddo yntau ymddiheuro - am jocian o'r Maen Ll么g fod gohebydd papur newydd oedd yn cael ei urddo yn aelod o'r Orsedd yn enllibiwr.
"Emyr o'r Morfa" oedd Emyr Williams, gohebydd eisteddfodol o hil gerdd, wedi ei ddewis yn enw gorseddol ond Robyn Ll欧n yn awgrymu wrth ei urddo y byddai "Emyr yr enllibydd" yn well.
"Mi ddifethodd y diwrnod i mi," meddai Mr Williams gan ychwanegu nad y maen llog yw'r lle i dynnu coes fel yna.
A go brin fod hyd yn oed ymddiheuriad preifat a chyhoeddus wedi gwneud llwyr iawn am y llithriad.
A rhai yn synnu i'r llithriad gael ei wneud gan Archdderwydd sy'n gyfreithiwr hefyd!
Sibrydiad yr wythnos Mae pob un o ohebwyr y Maes yn hoffi meddwl iddyn nhw ddod o hyd i enw enillwyr y cystadlaethau seremoniol o leiaf ddiwrnod cyn y seremoni.
Llwyddiant cymysg gawsom ni eleni - yn enwedig yn achos cystadleuaeth y gadair trwy fod yn gwbl gywir ac yn gwbl anghywir yr un pryd.
"Pwy gaiff y gadair yfory?" holwyd ymhlith ein gilydd ddydd Iau.
"Neb," oedd yr ateb a'r sibrydion yn dew ymhlith Y Rhai sy'n Gwybod mai Steddfod Cadair W芒g fyddai un Casnewydd.
Ac, yn wir, "Neb" ddaru ennill gan mai dyna ffugenw'r bardd cadeiriol.
Y sibrydion, felly, yn ffeithiol gywir ond wedi eu camddehongli.
A faint o weithiau mae hynny'n digwydd mewn bywyd?
Dyfyniad yr wythos Yr Archdderwydd Robyn Lewis yn dyfynnu Jonsi, 91热爆 Radio Cymru, o'r Maen Llog wrth alw ar aelodau Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol i'w cadw eu hunain yn bur.
Tybed a fydd Jonsi yn awr yn anfon un o'i grysau T gyda'r union eiriau hynny arno i bob aelod o Gyngor yr Eisteddfod i'w hatgoffa o siaras yr Archdderwydd?
Heijac yr wythnos Yr aelod seneddol, Ann Clwyd, yn manteisio ar ei chyfle ar y llwyfan yn ystod seremoni groesawu Cymru a'r Byd i ledaenu neges a welwyd fel un wleidyddol noeth ynglyn 芒 Rhyfel Irac gan sathru ar gyrn Undeb Cymru a'r Byd sy'n trefnu'r seremoni ac eraill yn y gynulleidfa.
Fel yr awgrymodd aelod amlwg o Gyngor yr Eisteddfod wedyn, camgymeriad yw rhoi llwyfan i unrhyw wleidydd.
"Pan ydych chi'n rhoi llwyfan i wleidydd mae petha fel hyn yn digwydd," meddai'n awgrymog.
Go brin y bydd y camgymeriad yn cael ei ailadrodd yn fuan.
Cymysgwch yr wythnos Gall enwau barddol fod yn dreth ar ambell un gyda gohebydd yn y Daily Post a fu'n holi'r Archdderwydd Robyn Ll欧n un diwrnod yn gorffen ei frawddeg gyda'r geiriau, "meddai Mr Ll欧n."
Bu mwy fyth o gynysgwch erbyn dewis archdderwydd newydd ddydd Gwener gyda'r Western Mail yn cyhoeddi mai Selwyn Gruffydd - Griffith ddylai fod - a ddewiswyd a'i fod yn cael ei adnabod hefyd fel "Gwyn ap Gwilym" - heb sylweddoli, mae'n amlwg, mai enw'r ymgeisydd arall yn ras yr archdderwyddiaeth oedd Gwynn ap Gwilym!
Rhifau'r wythnos Ar wah芒n i'r rhifau ymweld dyddiol a gymharodd mor ffafriol 芒 Meifod y llynedd o bosib mai ar lori a char y gwelwyd dau o rifau mwyaf diddorol yr wythnos.
C1 PWS oedd y rhif cofrestru ar lori oedd yn chwistrellu d诺r dros Maes i gadw'r llwch i lawr.
Ac yn y maes parcio gwelwyd yr hyn oedd yn siwr o fod yn gar mwyaf llengar y Brifwyl gyda'r rhif, L1 YFR!
|
|
|
|