91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


CefndirDathlu chwarter canrif o ddarlledu

HuwBydd prif gyflwynydd teledu'r Brifwyl, Huw Llywelyn Davies, yn dathlu 25 mlynedd o ddarlledu o'r Eisteddfod yng Nghasnewydd eleni.




"Eleni yng Nghasnewydd, mi fyddai'n cyflwyno'r Eisteddfod ar y teledu am y bumed flwyddyn ar hugain yn olynol, ac yn mwynhau cymaint ag erioed," meddai Huw Llywelyn Davies.

"Mae'n sialens fawr i gyflwyno cymaint o oriau o deledu byw, ond rwy' wrth fy modd gyda'r wefr, yr ansicrwydd, y cyfweliadau a'r eitemau."

Ac yntau wedi cychwyn ei yrfa Eisteddfodol ym Mhrifwyl Dyffryn Lliw yn 1980, mae'r gwr o Waencaegurwen yn mwynhau bod yng nghwmni Cymry o bob cwr o'r wlad yn ystod yr wythnos unigryw hon.

"Mae hi wedi bod yn fraint cael rhannu stiwdio gyda chynifer o fawrion diwylliant Cymru o fyd llenyddiaeth, cerdd a'r celfyddydau dros y blynyddoedd. Rwy' hefyd yn mwynhau cyfarfod a siarad gyda'r Eisteddfodwyr sy'n cefnogi'r digwyddiad yn flynyddol. Dyma hefyd gynulleidfa reolaidd teledu a radio Cymraeg.

"Wythnos yr Eisteddfod yw wythnos orau'r flwyddyn i mi. Rwy' wedi bod yn lwcus iawn ar hyd fy ngyrfa ddarlledu i gael teithio i weld gemau rygbi ac yn y blaen, ond yr Eisteddfod yw'r un peth rwy'n ei mwynhau yn gyson, o un flwyddyn i'r llall."

Mae gan Huw nifer o atgofion melys dros y blynyddoedd ond dywed mai cael cwmni y bas-fariton o Bant Glas, Bryn Terfel a'i gyfeilydd, Annette Bryn Parry yn y stiwdio wrth i Eisteddfod Ynys M么n 1999 ddirwyn i ben, sy'n dod i'r brig.

"Roedd cael cwmni Bryn Terfel ac Annette Bryn Parry yn fraint," meddai. "Roedden nhw mor gartrefol a naturiol, doedd rhywun ddim yn cofio bod y camer芒u yno.

"Uchafbwynt yr Eisteddfod, fel arfer yw cystadleuaeth y Rhuban Glas i unawdydd gorau yr Eisteddfod, a'r enillydd y flwyddyn honno oedd John Eifion, fu'n canu deuawdau gyda Bryn yn Eisteddfodau'r Urdd pan oedd y ddau yn fechgyn. Roedd hi'n foment arbennig, roedd 'na ddeigryn yn y llygaid a'r noson yn gyflawn," meddai.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 91热爆 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy