| |
Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal
Yn anffodus, go brin y byddwch yn clywed llawer o un o dafodieithoedd hynotaf Cymru pan fyddwch yn ymweld ag ardal Casnewydd ar gyfer yr Eisteddfod. Hynny, er mai dyma gartref y Wenhwyseg.
Daw'r enw oddi wrth yr enw ar hen drigolion Gwent, y Gwennwys, ac yr oedd yn iaith oedd yn cael ei siarad yn eang ar un adeg mewn ardal yn ymestyn o Sir Fynwy cyn belled a Dyffryn Aman a Bannau Brycheiniog.
Ond er nad oes llawer o'r iaith i'w chlywed heddiw dywed Mary Wiliam mewn llyfr a sgrifennodd hi am yr Wenhwyseg ei bod i'w chlywed "yn ddyddiol" yn Saesneg yr ardal.
"Mae cystrawen y Gymraeg mor fyw ag erioed," meddai yn Blas ar Iaith Blaenau'r Cymoedd gan gyfeirio at ymadroddion Saesneg fel, What is on her? (Beth sydd arni?)ac You can venter that it was 'im (Gelli fentro taw ef oedd a.)
Dyfynna hefyd eiriau Cymraeg sy'n dal ar iws - ond yn y Saesneg: 'E went like a winci ac You can count on 'er wen there's taro."
Ymhlith nodweddion o'r dafodiaeth y Mary Wiliam yn cyfeirio atynt mae absenoldeb y llythyren h "'Ewl, 'eddi, 'yll yw'r ffurfiau arferol. Gweiddir Eisht! ar blant neu gwn a chathod sy'n cadw swn. Ond os na yw hynny'n cael yr effaith briodol gweiddir Heisht! yn uwch fyth," meddai.
Dywed hefyd na ddefnyddir ch yn y dafodiaith gan ddyfynu, wech, wthu a wilia.
Mae'n cyfeirio hefyd at y defnydd o g mewn ffurfiau negyddol: Gwi ddim.
Dyma ddetholiad o rai o eiriau'r Wenhwyseg gyda gwahoddiad i chwithau anfon rhagor atom: Bacid: llawer
Betsi: Betsi o ddyn oedd dyn benywaidd. Yn cyfateb i Meri J锚n yn y gogledd efallai.
Bit: bychan iawn
Cantan: cloncan
Cwiddyl: cywilydd
Daplas: annibendod, bl;erwch
Diwal: glaw mawr - mae'n diwal y glaw.
Gwildra: stumog w芒g
Maplath: neidr ddefaid
Moefad: nofio
Motryb: modryb
Nyfath: pobl anystywallt (Mae Mary Wiiliam yn dyfynnu, "'Na nyfath o bobol odd yn byw 'no." Sgarjo: croen yn cochi ac yn torri.
Trico: ysu "Wi'n trico am ddishglad o de."
Tindwyro: mwytho neu faldodi
Walu: malu
Wingi wangam: igam ogam
Cyhoeddir Blas ar Iaith Blaenau'r Cymoedd gan Wasg Carreg Gwalch yn y gyfres, Llyfrau Llafar Gwlad.
|
|
|
|