| |
Bocs sebon i'r bobol bob dydd
Am y tro cyntaf yn ei hanes fe fydd yna focs sebon ym Mhabell Lên Eisteddfod Casnewydd.
Bob prynhawn am hanner awr wedi dau yn y Babell Lên bydd cyfle i bwy bynnag sydd eisiau leisio barn ar unrhyw bwnc yn ymwneud â llenyddiaeth, yr eisteddfod neu'r byd Cymraeg yn gyffredinol.
Gobaith is-bwyllgor llên yr Eisteddfod yw y bydd y bocs yn ennyn trafodaeth a dadlau bywiog, agored a chynhyrchiol ar bob math o bynciau.
"Felly, os ydych yn teimlo'n gryf am wahanol bynciau neu os yr ydych am godi sgwarnog neu ddwy o'ch dewis eich hun y Bocs Sebon amdani," meddai aelod o'r pwyllgor.
Ymhlith y pynciau posibl mae: A ydi'r Eisteddfod yn rhy fawr Cerrig plastig neu gylch cerrig? Gormod o gyhoeddi yn y Gymraeg? Y Talwrn wedi chwythu'i blwc? Ble aeth logo'r Steddfod? Steddfod Welsh? Archdderwydd am bum mlynedd?
Un peth sy'n sicr bydd digon i'w drafod ynglyn â'r Wyl i barau wythnos gyfan a mwy.Yn ogystal â Bocs Sebon mi fydd yna hefyd gwis dyddiol yn y Babell Lên - yr union beth ar gyfer y rhai hynny sy'n sefyll mewn rhes yn disgwyl mynediad.
Neu gall fod yn rhywbeth i'w wneud mewn gwesty neu garafán gyda'r nos.
Bydd taflen o gwestiynau a lluniau yn costio 20c yr un ac ar gael yn ddyddiol ger y babell Lên neu ym mhabell barddas a bydd yr atebion i'w gweld yno y diwrnod canlynol.
|
|
|
|