| |
Nodiadau: dydd Iau
Nodiadau dyddiol o Faes Casnewydd. Bu dydd Iau yn ddiwrnod o gyfathrebu - ac o fethu cyfathrebu . . .
Cenhadaeth Tom Yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Cymry Ariannin ym Mhabelly Cymdeithasau heddiw, talwyd teyrnged i'r diweddar Tom Gravell - perchen garej o Gydweli yr oedd ei gariad tuag at Batagonia a'i phobl yn ddihysbydd.
Ymwelodd 芒'r Wladfa 13 o weithiau i gyd ac atgoffwyd y cyfarfod gan lywydd y Gymdeithas, Cathrin Williams, y byddai bob amser yn sicrhau y byddai'n mynd a phregethwr gydag ef.
"Yr oedd yn rhoi pwys mawr ar hynny," meddai.
Swadan a Phwnsh Mae Rheol Gymraeg yr Eisteddfod dan lygaid barcud yn y brifwyl hon.
A dydd Mercher, gwaharddodd awdurdodau'r Eisteddfod sioe Pwnsh a Jiwdi rhag perfformio yn Saesneg.
Ond yn fwy dramatig fyth cerdddodd y gynulleidfa allan o gyfarfod yn trafod datganoli a drefnwyd gan fudiad Cymnru Yfory wedi i un o'r arbenigwyr a fu'n gweithio ar Adroddiad Richard fynnu siarad yn Saesneg.Torrwyd ar draws yr Athro Laura McAllister a gwrthodwyd ap锚l yr Archesgob Barry Morgan am "degwch" i'r siaradwraig.
Nid pob Cymro pybyr oedd yn cydweld a'r ymateb a chlywyd yr Arglwydd Elis Thomas yn gweiddi "Ffyliaid" ar y protestwyr gan fynnu mai rheol "llwyfan" yr Eisteddfod yw'r rheol Gymraeg.
Ar dy alwad di . . . Bu cyfarfodydd yr Eisteddfod hon yn hynod rydd o dramgwydd ffonau symudol.
Ond o bosib mai ym mhabell Cymdeithas Cymru Ariannin y cafwyd y profiad mwyaf gogleisiol.
Llywydd y gymdeithas wedi mynd am dro o gwmpas y Maes.
Yr ysgrifennydd yn ei galw ar ei ff么n symudol.
Y ff么n yn canu ym mag y llywydd, ar lawr yn y babell wrth draed yr ysgrifennydd!
Llwyddiant baledwr Bu'n rhaid disgwyl yn hir ond ddoe enillodd y baledwr o Sarn Mellteyrn, Ll欧n, Harri Richards, y wobr gyntaf am faled gyfoes am yr eildro.
Cyflawnodd yr un gamp o'r blaen yn Eisteddfod Casnewydd un mlynedd ar bymtheg yn 么l - yng Nghasnewydd!
Yn ffarmwr wedi ymddeol mae'n gystadleuydd rheolaidd yn yr Eisteddfod a daeth yn ail ym Meifod y llynedd.
Yn ddealledig Cafwyd gwers Gymraeg annisgwyl yn dilyn cyfarfod Y Byd a anerchwyd gan Huw Edwards y pnawn yma.
Clywyd un o'r gynulleidfa, ar 么l dod o'r cyfarfod yn dweud wrth gyfaill:
"Run ni fod i wneud un o ddau beth - un ai tanysgrifio neu rhyw air arall. Beth bynnag oedd hwnnw'n i feddwl.""Buddsoddi?" "Ie. Be mae hwnnw'n i feddwl."
Gan brofi sut y gall y cyfathrebwr gorau, yn wir, gymryd yn ganiataol weithiau fod pawb yn ei ddeall - a hwythau ddim!
|
|
|
|