Gigs: The Poppies, Kenavo, Frizbee, Ashokan
Yn agor gig Cymdeithas yr Iaith nos Fawrth mae The Poppies o Aberystwyth. Band arall Sam Mozz yw The Poppies, ac mae ganddo bresenoldeb da ar lwyfan, gan ddal sylw y gynulleidfa.
Dyma fand unigryw yn y S卯n Roc Gymraeg - er eu bod yn swnio fel sawl band Saesneg arall gyda 'The' yn rhan annatod o'r enw (The Strokes, The Hives ayyb) - a dylanwad Led Zeppelin yn amlwg.
Anghofio gwenu Mae digon o fynd i'w caneuon a phwyslais ar y dryms a'r bass, a phresenoldeb yr harmonica mewn cwpwl o ganeuon (mae prinder mawr o'r offeryn gwych yma ar y S卯n Roc Gymraeg!).
Dyma fand roc sy'n llawn haeddu ei le a dwi'n edrych ymlaen at glywed mwy ganddynt.
Dwi'n teimlo ar adegau eu bod ychydig yn ddi-fflach ar lwyfan - pob un yn canolbwyntio cymaint ar eu hofferynnau fel eu bod yn anghofio gwenu a chael hwyl. Cofier - os bydd y band yn mwynhau, bydd y gynulleidfa yn mwynhau!
Gan mai parti maes-e.com yw heno, mae'n amhosib mynd bum munud heb glywed y cwestiwn angenrheidiol hwnnw, "Wyt ti ar y maes?"! Ac mae'r band nesaf - Kenavo - yn cyflwyno Tai Haf i Nic Dafis - y dyn a ddechreuodd y wefan flwyddyn a hanner yn 么l.
Dawnus iawn Prosiect dau frawd - Rhys a Chynan Llwyd o Aberystwyth yw Kenavo - ac mae'n amlwg bod Cynan yn MC dawnus iawn, gyda llawer o botensial - er nad yw ond yn bymtheg oed.
Dyma'r tro cyntaf i mi glywed Kenavo, a rhaid dweud fy mod i wedi fy mhlesio gan griw sy'n amlwg am gael hwyl, yn enwedig yn ystod y g芒n olaf lle mae Rhys Llwyd yn dod i ymuno 芒'r ddwy ddewr sy'n dawnsio i chwarae'r dryms.
Ar y bass mae Iestyn Jones, sydd hefyd yn chwarae bass i'r Panics, ac mae ei bresenoldeb a'i ddawn amlwg yn rhan mawr o'r perfformiad - er nad yw'n rhan flaen o'r band ar y llwyfan.
Yn dilyn b卯ts hip-hopaidd Kenavo mae Frizbee o Flaenau Ffestiniog. Mae'r band yma newydd ryddhau eu albwm cyntaf - Hirnos, ac mae'r set heno'n llawn o ganeuon o'r cd yma, gyda ychydig o ganeuon ychwanegol.
Perfformiad gwych gan y band - Dora Gusan a Hirnos yn ddau o'm ffefrynnau i am y noson. Mae'n debyg bydd gan y band ep newydd allan erbyn y gaeaf - gwyliwch allan amdani.
Dawnsio'n wyllt Ac i orffen y noson mae Ashokan, o Bontypridd. Ar 么l rhyddhau eu halbwm cyntaf Diolch am ddal y gannwyll ddechrau'r flwyddyn, mae'r band yn gweithio ar ganeuon newydd, a cawn flas ar rheina heno.
Mae gan y caneuon newydd s诺n trymach na'r rhai ar Diolch am ddal y gannwyll.
Braf clywed Y boi sydd methu ffonio n么l yn 么l yn fyw ac yn iach, ac mae'r gynulleidfa yn dawnsio'n wyllt trwy gydol y set. Mae'r band yn llawn egni heno, ond teimlaf fod y set wedi gorffen braidd yn sydyn - lle'r oedd yr encore?! Heblaw am hynny, does gen i ddim byd negyddol i ddweud am y band - na'r noson a dweud y gwir. Noson wych yn llawn o fandiau newydd, ifanc a ffresh y S卯n Roc Gymraeg - pob un ar ei orau, a'r gynulleidfa i gyd i'w gweld wedi mwynhau.Lowri Johnston
|