Gigs : Heather, Drumbago a Bechdan Jam
Gig Cymdeithas yr Iaith ar nos Lun
Colli Tir - Colli Iaith yw enw noson agoriadol gigs Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, a Bechdan Jam, band ifanc o'r gogledd, sy'n agor y noson. Er nad oedd y lle yn llawn, mae tri aelod o'r band yn llwyddo i lenwi'r llwyfan, a'r ystafell, gyda'i caneuon roc a phop. Dim byd gwreiddiol efallai - ond digon o botensial.Dwi'n meddwl mai'r amrywiaeth cerddoriaeth rhwng y bandiau oedd yn chwarae oedd un o'r prif resymau i mi fwynhau'r noson cymaint. Ac yn sicr, roedd Heather Jones, gyda'i llais peraidd, yn wrthgyferbyniad llwyr i ganeuon roc y gr诺p ifanc blaenorol.
Dyma'r tro cyntaf i'r band chwarae gyda'i gilydd ar lwyfan, ac mae'n rhaid dweud eu bod yn cydweithio'n dda. Gyda dau lais yn gefn i'w un hi, mae'r caneuon yn harmoniaidd ar adegau, ond yn sicr yn swynol ac yn cymryd sylw y gynulleidfa ar bob adeg.
Gyda Heather Jones yn chwarae'r git芒r acwstig a git芒r drydan yn bresennol hefyd, ceir amrywiaeth i'r caneuon - rhai yn araf ac yn gwneud i chi eisiau cysgu, ychydig o roc nawr ac yn y man - a hyd yn oed blues ar adegau. Mae'r band cyfan i'w gweld yn mwynhau mas draw ar y llwyfan, ond Heather Jones ar ei phen ei hunan sy'n darparu uchafbwynt y set, gyda Colli Iaith.
Yn syth, mae llygaid pawb yn troi at y llwyfan, a'r goleuadau'n cael eu diffodd yn y neuadd - pawb yn canolbwyntio ac ar goll yn llais hyfryd Heather. Amhosib peidio cymryd sylw o'r hyn sy'n digwydd ar y llwyfan, ac mae geiriau'r g芒n yn ychwanegu at pa mor arbennig - a pherthnasol i'r noson - yw'r perfformiad.
Unwaith eto, band hollol wahanol i'r un cynt sy'n ymddangos nesaf - sef Drumbago. Rhaid cyfaddef mod i ddim yn gwybod llawer am y band yma - dim ond eu bod nhw'n hollol wych. Ar 么l clywed cymaint am y band, doeddwn i methu aros i'w gweld nhw'n fyw, ac yn sicr wnaethon nhw ddim siomi. Rhaid cyfaddef hefyd mod i ddim yn siwr sut i ddisgrifio'r gerddoriaeth - ond dwi'n meddwl bod hi'n iawn i ddweud nad oes band arall yn y S卯n Roc Gymraeg sy'n medru gwneud cynulleidfa i ddawnsio cymaint 芒'r band yma!
Gobeithio bydd albwm allan cyn hir, ond os am damaid i aros pryd, ceir dwy g芒n gan Drumbago i'w lawrlwytho ar www.unarddeg.com
Dyma'r band sy'n cynnig rhywbeth gwahanol i'r S卯n ar y foment - ewch i'w gweld yn bendant!
Gyda Ian Cottrell fel DJ yn darparu amrywiaeth o ganeuon rhwng y bandiau mae wedi bod yn noson wych, ac yn ddechrau gr锚t i wythnos sy'n addo bod yn llwyddiant ac yn lot fawr iawn o hwyl!
Adolygiad gan : Lowri Johnston
Am wybodaeth am gigs yr wythnos - cliciwch yma.