Gigs: nos Wener
Lowri Johnston yn drist yn Noson olaf y Panics gyda Mim Twm Llai a Meic Stevens.
Eryr - band o Ben Ll欧n sy'n agor gig Nos Wener Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod. Oherwydd bysiau araf, dwi'n colli rhan fwyaf o'u set ond yn gweld eu c芒n olaf - Gwenu ar Dduw.
Dyma fand addawol iawn, gyda gitarydd gwych a llawer iawn o botensial.
Noson drist Gig olaf Y Panics yw hi heno, ac felly mae'n noson drist iawn i'r ffans hardcore yn y gynulleidfa! Mae'n set sy'n llawn o'r ffefrynnau - er, dwi ddim yn si诺r o ddechrau'r set gyda Byth mynd i newid gan ei fod yn rhy araf, a ddim yn dal sylw y gynulleidfa. Plentyndod sydd i ddilyn, sy'n g芒n hollol ffantatsig am golli plentyndod.
Fflur sy'n chwarae'r g芒n yma'n acwstig, a dyw ei llais ddim yn un cryf iawn, yn enwedig dros gleber y gynulleidfa.
Dwi ddim yn deall pam mae pobl yn talu i fynd i weld gigs os am eistedd yno'n siarad yn uchel ac anwybyddu'n llwyr beth sy'n digwydd ar y llwyfan. Prin oedd hi'n bosib clywed Fflur dros yr holl s诺n, ond mae pethau'n dechrau gwella wrth i ganeuon gyda mwy o egni yn perthyn iddynt gael eu chwarae.
Er mai dyma gig ola'r band, dyw pob aelod o'r band ddim yn bresennol - gydag absenoldeb Iwan Evans ar y Sacsaffon a Nia Medi yn canu.
Ond, mae Fflur yn ddigon abl i gymryd yr awenau, ac yn ein harwain trwy set gyfan o ganeuon gwych megis Dyn Tywydd, Dinas, Mr Bean Machine, Elin Royles a fy ffefryn i (fel brodor o Gaerfyrddin), sydd am ferched siop sglodion yng Nghaerfyrddin.
Reit emosiynol Mae'r g芒n olaf yn reit emosiynol - yn enwedig i bobl fel fi sydd wedi bod yn dilyn y band yma ers oesoedd! Mae'n gymaint o drueni eu bod yn dod i derfyn, does dim band tebyg iddynt ar y S卯n ar hyn o bryd, ac mae grwpiau gyda merched yn sylfaen iddynt yn bethau prin iawn yng Nghymru. Anioddefol sydd i orffen, ac mae pawb yn dawnsio'n wyllt. Pob lwc i aelodau'r band - gan obeithio nad hwn fydd y diwedd.
Dim byd syfrdanol Mim Twm Llai sydd i ddilyn - set da, ond dim byd syfrdanol. Tafarn yn Nolrhedynyn uchafbwynt i mi, ac mae'r set yn llawn o ganeuon o'i albwm O'r Sbensh.
Meic ar ei orau Ac yna'r Brawd Hwdini ei hun - Meic Stevens - i orffen. Yn wahanol i'r tro dwetha' i mi ei weld yng Nghlwb y Quins yng Nghaerfyrddin, mae ar ei orau heno, yn llawn hwyl ac i'w weld yn mwynhau ar y llwyfan.
Er hynny, dyw e ddim yn dod yn 么l am encore er gwaetha' gofynion y gynulleidfa. Mae diffyg Ysbryd Solfa hefyd yn siom, ond mae'n chwarae'r Brawd Hwdini sy'n wych.
Noson dda iawn, gyda amrywiaeth o fandiau - o'r hen i'r ifanc - yn plesio'n arw.
|