Dyddiadur: bore Iau
Dyddiadur dyddiol Lowri Johnston o Faes B a gigs y Steddfod
Ar 么l noson fawr ym mharti Maes-e.com nos Fawrth, a dim llawer o gwsg, dwi'n teimlo ychydig yn sigledig bore Mercher. Ond ar 么l cael cawod yn adnoddau hyfryd (!) y maes ieuenctid, dwi'n dechrau dihuno ac yn barod i wynebu''r dydd o'm mlaen i! Ar 么l dihuno dwi'n sylwi bod rhywun wedi rhwygo drws ein pabell - mi wna i ddarganfod pwy iawn?!Er hynny, dwi'n gorfod ymadael 芒'r babell a draw at faes yr Eisteddfod. Dw i'n gweithio tan dri ac wedyn draw i'r Babell L锚n. Rhaid i mi s么n am fy ffrind, Llinos Dafydd, a enillodd wobr Barddas dan 25 oed (sori, dwi ddim yn si诺r yn union beth oedd y gystadleuaeth!) Longyfarchiadau mawr iddi! Rwy'n aros ar 么l y seremoni i weld yr Ymryson rhwng timoedd M么n, Meirionydd a'r 't卯m dirgel'. Rhaid cyfaddef mai dyma fy nhro cyntaf mewn ymryson, ac fe fwynheais llawer mwy nag oeddwn i'n disgwyl. Doeddwn i'n methu credu y campweithiau ddaeth i'r golwg mewn amser mor fyr, a'r t卯m dirgel aeth 芒 hi, o drwch blewyn.
Draw wedyn am dro o gwmpas y maes. Mae'n fawr iawn flwyddyn yma (neu fi sy'n fach), a llawer i wneud ac i weld. Diolch byth am y bobl sydd "yma i helpu" i roi cyfarwyddiadau lle mae dod o hyd i bopeth.
Cysgu'n yr haul
Fy hoff stondin ar hyn o bryd yw un Tesco - pwdin reis hyfryd am ddim - ewch yno i'w flasu! Gyda'r haul tanbaid, dwi'n penderfynu peidio aros am sbel, felly yn 么l draw i'r maes ieuenctid. Roedden ni'n bwriadu mynd draw i gwis tafarn Abri, ond yn anffodus, rydyn ni rhy ddiog ac felly yn ei golli. Cysgu yn yr haul yn lle!
Y ddwy noson flaenorol, dwi wedi mynychu gigs Cymdeithas yr Iaith, ond heno dwi'n penderfynu mynd i TJs i weld gig olaf Mozz. Dwi'n hollol gutted eu bod nhw'n gorffen, does dim band tebyg iddyn nhw ar y S卯n ar hyn o bryd. Er eu bod nhw ond yn 17 oed, maen nhw wedi gwneud cymaint dros y flwyddyn diwethaf, ond dwi'n teimlo nad ydynt wedi cael cyfle i ddangos beth mae nhw wiryn gallu gwneud. Trueni iddyn nhw beidio rhyddhau albwm cyn iddyn nhw orffen. Ond, mae Dylan yn s么n bod rhywbeth ar y gweill ar gyfer rhai o aelodau Mozz, ac nad hyn fydd y diwedd, felly mae yna obaith wedi'r cyfan!
Teimlo'n s芒l
Yn anffodus, yng nghanol set Jakakoyak dwi'n mynd i deimlo'n s芒l iawn, ac felly gan fod gen i'r car dwi'n mynd draw i Gaerdydd i aros gyda ffrind am y noson. Gwely iawn o'r diwedd, a dwi'n gadael fy ffrindiau i ymdopi gyda'r babell sydd wedi rhwygo!
Mwy gen i fory - os byw ac iach!